Cyflwyniad gan Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Nia Whiteley
Mae鈥檙 Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i'r rheiny sydd 芒 diddordeb mewn meysydd pwnc ar draws y gwyddorau naturiol.
Mae gennym enw da yn rhyngwladol ym maes ymchwil, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni gradd israddedig ac 么l-radd ar bynciau sy'n ymwneud ag Amaethyddiaeth, Bioleg, Cadwraeth, Gwyddor yr Amgylchedd, Daearyddiaeth, Coedwigaeth a S诺oleg. Mae nifer o'n graddau wedi'u hachredu'n broffesiynol a gall myfyrwyr gwblhau lleoliadau gwaith ac ennill profiad rhyngwladol fel rhan o'u gradd.
Mae ein lleoliad rhwng m么r a mynydd yn ein galluogi i wneud y gorau o'n hamgylchedd naturiol, ac rydym yn elwa ar gyfleusterau ymchwil blaengar, fel y Ganolfan Biotechnoleg Amgylcheddol, a Chanolfan Ymchwil Fferm Henfaes.
Mae'r Ysgol yn unigryw am fod ganddi gasgliad cynhwysfawr o ddeunydd fertebratau ac infertebratau yn yr Amgueddfa Byd Natur, a chysylltiad agos 芒 Gardd Fotaneg Treborth ar lannau鈥檙 Fenai.
Mae ein hacademyddion a'n myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil cydweithredol ar draws y byd ac yn ymdrin 芒 materion a phynciau o bwys sylfaenol sy'n gysylltiedig 芒'n hamgylchedd naturiol. Mae eu darganfyddiadau yn cynorthwyo i lunio polis茂au llywodraeth, ac yn newid ein ffordd o feddwl am fyd natur a'i broblemau.聽