Beth Jones Hanes gydag Astudiaethau Ffilm
骋谤补诲诲:听Hanes gydag Astudiaethau Ffilm
Dywedwch wrthym ni beth oeddech chi'n ei hoffi fwyaf am astudio'ch gradd gyda ni ym Mangor.
Mae cyfeillgarwch ac agwedd gadarnhaol y staff ar draws y campws, gan gynnwys yr uned gweinyddu myfyrwyr, gwasanaethau myfyrwyr arbenigol, darlithwyr a staff y llyfrgell wedi gwneud fy mhrofiad yn un gwych. Mae'r hyder y mae'r cymorth hwn yn ei feithrin wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'm twf academaidd a phersonol.
Rhowch flas i ni o un neu ddau o'r modiwlau a astudiwyd gennych chi.
Gan fy mod i鈥檔 dilyn gradd gymysg, roedd gen i gryn amrywiaeth o fodiwlau ond digon o gyfle hefyd i gysylltu'r ddau bwnc. Un modiwl a fwynheais yn fawr oedd un yn ystod fy mlwyddyn gyntaf a oedd yn archwilio hanes ffilm. Fe agorodd fy llygaid i鈥檙 ffyrdd gwahanol roedd pobl wedi defnyddio ffilm trwy gydol hanes i fynegi teimlad gwleidyddol neu鈥檙 hinsawdd wleidyddol ar adeg rhyddhau鈥檙 ffilm, yn fwriadol ac yn anfwriadol. Dw i鈥檔 meddwl y bu鈥檙 modiwl hwn o gymorth i weddill fy mhrofiad gyda'r ysgol ffilm oherwydd fe allwn i gydblethu them芒u gyda fy mhwnc sylfaenol, sef hanes. Yn bersonol, canolbwyntiais ar fodiwlau hanes modern a modern cynnar, a oedd yn amrywio o Frenin Siarl I i Ewrop ar 么l y rhyfel.
Pa gyfleoedd cyflogadwyedd cawsoch?
Roedd y profiad interniaeth yn wych i mi. Roedd llunio adroddiad ar gyfer plasty canoloesol ar Ynys M么n yn golygu imi archwilio amrywiaeth o wahanol ffynonellau a deunyddiau i ffurfio naratif cydlynol o鈥檙 safle a鈥檙 gwahanol berchnogion ers y bymthegfed ganrif. Dysgodd y gwaith i mi am bwysigrwydd bod yn benodol gydag ymchwil, yn enwedig o ystyried pa mor hawdd oedd hi i fynd ar 么l tystiolaeth ddiddorol nad oedd yn cyd-fynd yn llwyr ag amcanion y project. Roedd gallu hidlo deunydd a ffurfio naratif cydlynol yn rhan fawr o ddatblygiad fy nghyfuniad sgiliau oherwydd gallwn fod wedi dal ati i ymchwilio am byth! Her hefyd oedd dadansoddi rhai o鈥檙 deunyddiau a ddarganfuwyd, yn enwedig dehongli llawysgrifen a defnyddio deunyddiau oedd yn newydd i mi, gan gynnwys ewyllysiau a thestamentau olaf a chymharu mapiau i ganfod gwybodaeth. Bu i鈥檙 ddwy enghraifft hon yn unig ddatblygu fy sgiliau ymchwil, datrys problemau, defnyddio ffynonellau cynradd, sgiliau TG, a chydweithio. Yn bennaf oll roedd yr interniaeth yn gyfle gwych i ddeall ychydig am y sector ymchwil ac archwiliadau hanesyddol go iawn, a鈥檙 adroddiad yn rhan o fwriadau ehangach y project ar gyfer Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, fel math o brofiad gwaith.
Pam Prifysgol Bangor?
Rwy'n credu'n gryf yng ngrym y rhai o'ch cwmpas i ddylanwadu ar eich profiad, ac mae staff Bangor wedi ffurfio fy mhrofiad i. Ni wfftir at unrhyw gwestiwn, pwysleisir gwerth chwilfrydedd a gyda hyn anogir pawb i fod yn nhw eu hunain. Os yw cynnwys y modiwl yn ymddangos yn fygythiol i ddechrau neu ddim yn union at eich dant, peidiwch ag ofni oherwydd bydd y staff yn gwneud sesiynau'n ddifyr gyda'u brwdfrydedd dros y pwnc, a byddant yn cymell myfyrwyr i lwyddo. Mae yna hefyd gymaint o amrywiaeth o ran modiwlau a chyrsiau i ddewis o鈥檜 plith fel y gallwch chi archwilio diddordebau a chyfnodau gwahanol yn rhan o鈥檙 pwnc neu trwy gyfuniad o gyrsiau fel y gwnes i. Os oes unrhyw fyfyriwr yn chwilio am le llawn cefnogaeth, cyfeillgarwch, ac amrywiaeth o arbenigeddau pwnc, mae Bangor yn lle gwych i'w ystyried.
*Mae modiwlau yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. I gael y rhestrau mwyaf diweddar o fodiwlau, ewch i dudalen y cwrs. Mae'n bosibl na fydd modiwlau a drafodir yn y proffil graddedig hwn yn cael eu cynnig.