Gyda鈥檙 Sioe Fawr i鈥檞 chynnal ar faes 150 erw鈥檙 Sioe Amaethyddol Frenhinol yn Llanelwedd ger Llanfair-ym-Muallt o ddydd Llun, 22 Gorffennaf tan ddydd Iau, 25 Gorffennaf, bydd ymwelwyr i鈥檙 Sioe yn medru taro mewn am sgwrs, mynychu digwyddiad neu hel gwybodaeth ar trelar arddangos mawrProfysgol Bangor.
Yn y cyfamser, bydd nifer o ymchwilwyr y Brifysgol yn rhannu o鈥檜 harnbenigedd ac yn cymryd rhan mewn amrediad o ddigwyddiadau. 听听听
Mae鈥檙 digwyddiad yn denu mwy na 50,000 o ymwelwyr y dydd, a daw ymwelwyr ac arddangoswyr yno o bob cwr o Ewrop i ddathlu coedwigaeth, garddwriaeth, amaethyddiaeth, cefn gwlad, crefftau a bwyd a diod o Gymru.听听
Dywedodd Gwenan Hine, Ysgrifennydd y Brifysgol,
鈥淩ydym yn edrych ymlaen i weld darpar fyfyrwyr, cyn-fyfyrwyr, y cyhoedd ac aelodau o鈥檙 diwydiant dros y pedwar diwrnod. Mae'n bwysig arddangos y Brifysgol a bod yn rhan o Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. Gobeithiwn eich gweld chi yno!鈥
Bydd 听trelar y Brifysgol yng nghanol maes y sioe, nid nepell o鈥檙 adran goedwigaeth a phrif bafiliwn y sioe. Arno bydd y cwis cyffwrdd poblogaidd, 'Dyfalwch y benglog?' a drefnir gan yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Uchafbwynt arall fydd lansiad cyfres bodlediadau 鈥楲lond ceg o fwyd Cymreig cynaliadwy鈥 ar ddydd Mawrth, 23 Gorffennaf, dan arweiniad Dr Eifiona Thomas Lane, darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, a鈥檙 Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Bydd y Brifysgol hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiol ddigwyddiadau a sesiynau yn ystod yr wythnos:
Dr Prysor Williams, uwch ddarlithydd mewn rheolaeth amgylcheddol, yw un o feirniaid prif wobrau鈥檙 Gymdeithas, Gwobr Goffa Syr Bryner Jones. Thema'r wobr eleni yw Amaethyddiaeth Adfywiol a bydd yn cael ei chyflwyno i'r enillydd ddydd Llun, 22 Gorffennaf.
Bydd Dr Ashley Hardaker, darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, yn cymryd rhan mewn sesiwn banel 鈥楥oed ar ffermydd鈥 ar ddydd Mawrth, 23 Gorffennaf
Bydd John Healey, Athro Gwyddor Coedwig, yn mynychu trafodaeth ar sgiliau a darpariaeth hyfforddiant Llywodraeth Cymru ar ddydd Mawrth, 23 Gorffennaf
Bydd Perpetua Ifiemor, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol, yn rhoi sgwrs am wastraff ffrwythau a llysiau yn y babell Garddwriaeth ar ddydd Mawrth, 23 Gorffennaf
Bydd y Ganolfan Biogyfansoddion yn cymryd rhan yn sesiwn Confor 鈥楳ae pren yn ddeunydd uwch-dechnoleg鈥 ar dydd Llun, 25 Gorffennaf
听