Prifysgol Bangor yn addo ei hymrwymiad i staff technegol
Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn un o lofnodwyr mwyaf newydd yr Ymrwymiad i Dechnegwyr (), gan adlewyrchu ein hymroddiad cryf i wella amlygrwydd, cydnabyddiaeth a datblygiad gyrfa ein staff technegol.
Wedi'i lansio yn 2017, mae'r Ymrwymiad i Dechnegwyr yn fenter sefydliadau ymchwil ac addysg uwch gyda'r nod o sicrhau bod cyfraniad hanfodol technegwyr ar draws sefydliadau addysg uwch ac ymchwil yn cael ei gydnabod a'i werthfawrogi.
Trwy ymuno â'r Ymrwymiad i Dechnegwyr, mae'r Brifysgol yn addo gwella cynaliadwyedd a datblygiad ei gweithlu technegol. Mae'r aelodau staff hyn yn ganolog i lwyddiant addysgu, ymchwil ac arloesi, ond maent yn aml yn gweithredu y tu ôl i'r llenni.
Mae Prifysgol Bangor wedi hen gydnabod rôl hanfodol ei staff technegol, a thrwy lofnodi’r Ymrwymiad hwn, rydym yn ailddatgan ein hymroddiad i ddarparu’r gefnogaeth, y gydnabyddiaeth, a’r cyfleoedd datblygu y maent yn eu haeddu.
Bu i’r Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil) yr Athro Paul Spencer bwysleisio pwysigrwydd yr ymrwymiad hwn, gan ddweud: “Technegwyr yw asgwrn cefn ein sefydliad. Mae eu sgiliau, eu harbenigedd a'u gwaith caled yn hanfodol i'n hymchwil. Rydyn ni’n ymroddedig i greu diwylliant lle mae eu cyfraniadau yn cael eu cydnabod a lle mae ganddynt lwybrau clir ar gyfer dilyniant a datblygiad gyrfa."
Mae’r ymrwymiad hwn yn seiliedig ar bedwar maes allweddol:
Gwelededd: Sicrhau ein bod yn gwybod pwy yw pob technegydd yn y Brifysgol a bod cyfraniad technegwyr yn weladwy yn y sefydliad a thu hwnt.
Cydnabyddiaeth: Cefnogi technegwyr i ennill cydnabyddiaeth trwy gofrestriad proffesiynol a chynlluniau dyfarnu allanol.
Datblygu Gyrfa: Galluogi cyfleoedd dilyniant gyrfa i dechnegwyr trwy ddarparu llwybrau gyrfa clir, wedi'u dogfennu.
Cynaliadwyedd: Sicrhau cynaliadwyedd sgiliau technegol ar draws y Brifysgol yn y dyfodol a bod arbenigedd technegol yn cael ei ddefnyddio'n llawn.
Ychwanegodd Dr Charlotte Baxter MRSC, Prif Dechnegydd yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg “Rwyf wrth fy modd bod y Brifysgol wedi dod yn un o lofnodwyr yr Ymrwymiad i Dechnegwyr. Fel technegydd, rwy’n falch bod y Brifysgol wedi addo sicrhau bod y gweithlu technegol yn cael ei gydnabod, ei wobrwyo a’i gynnal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ar draws pob disgyblaeth. Fel yr arweinydd technegol ar gyfer datblygu ein cynllun gweithredu Ymrwymiad i Dechnegwyr, byddaf yn chwilio am gynrychiolwyr technegwyr o bob rhan o’r Brifysgol i ymuno â mi ar y grŵp llywio ac yn gofyn i unrhyw Dechnegwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i gysylltu â mi.”
Dywedodd Dr Simon Breeden, Arweinydd Cyswllt, Ymrwymiad i Dechnegwyr, “Mae’n bleser gan yr Ymrwymiad i Dechnegwyr groesawu Prifysgol Bangor fel ein llofnodwr diweddaraf, gan ddangos yn falch ymrwymiad y Brifysgol i ddatblygu a chefnogi ei staff technegol a sicrhau newid diwylliant cadarnhaol i’r gymuned dechnegol. Rydym yn awyddus i sicrhau bod gan dechnegwyr yng Nghymru lais pwerus a nodedig yn sector technegol y Deyrnas Unedig ac mae’n gyffrous ychwanegu Bangor at y gymuned gynyddol honno o dechnegwyr. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r tîm dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf i sicrhau newid cadarnhaol i dechnegwyr yng Nghymru. Trwy’r addewid hwn, nod y Brifysgol yw meithrin amgylchedd cynhwysol, cefnogol lle gall staff technegol ffynnu a pharhau i chwarae rhan ganolog yn ei llwyddiant parhaus.”