Mae'r astudiaeth gan sawl awdur yn cynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o'r heriau sydd i鈥檙 amgylchedd ac i iechyd sy'n gysylltiedig 芒 gweithgareddau mwyngloddio metelau.
Defnyddiwyd cronfa ddata geogyfeiriol fyd-eang newydd o 185,000 o fwyngloddiau metel a luniwyd gan y t卯m gyda chyfuniad o fodelu ar sail prosesau a phrofion empirig. Asesodd yr ymchwil halogiad mwyngloddiau metel yn fyd-eang mewn systemau afonydd a鈥檙 么l-effeithiau i boblogaethau dynol a da byw.
Modelodd yr astudiaeth halogiad o bob safle mwyngloddio metel gweithredol ac anweithredol hysbys, gan gynnwys cyfleusterau storio sorod - a ddefnyddir i storio gwastraff mwyngloddio - a bu鈥檔 bwrw golwg ar halogion a allai fod yn niweidiol fel plwm, sinc, copr ac arsenig, sy'n cael eu cludo i waered afon o fwyngloddiau, ac yn aml yn cael eu dyddodi ar hyd sianeli afonydd a gorlifdiroedd am gyfnodau estynedig.
Rydym yn cloddio am fetelau ers miloedd o flynyddoedd a gadawodd y gweithgareddau hynny lygredd helaeth, yn enwedig yng ngwaddodion y gorlifdiroedd. Yn wir, gallwn weld enghreifftiau o鈥檙 etifeddiaeth honno ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys Gogledd Cymru.
Mae鈥檙 astudiaeth yn mesur maint yr etifeddiaeth honno鈥檔 fyd-eang am y tro cyntaf, gan gynnwys nifer y bobl sy鈥檔 byw mewn ardaloedd a gafodd eu llygru gan waith y mwyngloddiau metel. Mae hefyd yn ffordd bwysig o atgoffa rhywun o'r risgiau a achosir gan weithgareddau mwyngloddio os c芒nt eu rheoli鈥檔 wael. Mae hynny鈥檔 berthnasol iawn o ystyried bod angen adnoddau metel penodol ar gyfer dulliau technolegol o fynd i'r afael 芒鈥檙 newid yn yr hinsawdd, megis ynni adnewyddadwy a thechnoleg cerbydau trydan, a bydd angen cloddio amdanynt. Mae angen inni wneud hynny mor gynaliadwy 芒 phosibl fel na fyddwn yn ychwanegu dim at y llygredd yn yr amgylchedd.
听
Asesu effeithiau鈥檙 mwyngloddiau ar ecosystem ac iechyd dynol
Dywedodd yr Athro Mark Macklin, o Brifysgol Lincoln, a fu鈥檔 arwain y t卯m amlddisgyblaethol, rhyngwladol sydd y tu 么l i'r ymchwil,
鈥淢ae ein dull newydd o ragfynegi gwasgariad gwastraff mwyngloddiau mewn systemau afonydd ledled y byd yn cynnig dull i lywodraethau, rheoleiddwyr yr amgylchedd, y diwydiant mwyngloddio a chymunedau a fydd, am y tro cyntaf, yn eu galluogi i asesu effeithiau鈥檙 mwyngloddiau oddi ar y safle ac i waered afon ar ecosystem ac iechyd dynol.鈥
鈥淩ydym yn disgwyl y bydd hynny鈥檔 ei gwneud hi鈥檔 haws i liniaru effeithiau amgylcheddol y mwyngloddio hanesyddol a chyfredol ac, yn bwysicaf oll, bydd yn helpu lleihau effeithiau datblygiadau mwyngloddio at y dyfodol ar gymunedau, yn ogystal ag amddiffyn diogelwch bwyd a d诺r.鈥
Rhyddhawyd y canlyniadau newydd i gefndir o alw cynyddol am fetelau a mwynau i ddiwallu gofynion y trawsnewid at ynni gwyrdd, ac maent yn amlygu dosbarthiad eang y llygredd, sy鈥檔 effeithio ar oddeutu 479,200 cilomedr o sianeli afonydd ac sy鈥檔 cwmpasu 164,000 cilomedr sgw芒r o orlifdiroedd yn fyd-eang.
Yn 么l y canfyddiadau, mae tua 23.48 miliwn o bobl yn byw ar y gorlifdiroedd hynny a 5.72 miliwn o dda byw. Maent yn cwmpasu dros 65,000 cilomedr sgw芒r o dir dyfredig. Oherwydd nad oes data ar gael ar gyfer sawl gwlad, mae t卯m yr astudiaeth yn credu mai amcangyfrif ceidwadol yw鈥檙 niferoedd hyn.
Gall pobl ddod i gysylltiad 芒 metelau halogedig mewn amrywiol ffyrdd gan gynnwys cyswllt uniongyrchol 芒鈥檙 croen, eu llyncu鈥檔 ddamweiniol, anadlu llwch halogedig, a thrwy yfed d诺r halogedig a bwyd a sy鈥檔 cael ei dyfu mewn priddoedd halogedig.
Mae hynny鈥檔 achosi perygl ychwanegol i iechyd cymunedau trefol a gwledig mewn gwledydd a chymunedau isel eu hincwm sy'n dibynnu ar yr afonydd a'r gorlifdiroedd hynny, yn enwedig mewn ardaloedd sydd eisoes yn llawn afiechydon sy'n gysylltiedig 芒 d诺r. Mewn gwledydd diwydiannol yng Ngorllewin Ewrop, gan gynnwys y Deyrnas Unedig, a鈥檙 Unol Daleithiau, mae鈥檙 halogi鈥檔 gyfyngiad mawr a chynyddol ar ddiogelwch d诺r a bwyd, mae鈥檔 peryglu gwasanaethau hanfodol yr ecosystemau, ac mae鈥檔 cyfrannu at ymwrthedd gwrthficrobaidd yn yr amgylchedd.
鈥淢ae鈥檔 hanfodol sicrhau twf buan mewn mwyngloddio metelau鈥檔 fyd-eang os yw鈥檙 byd am symud ymlaen at ynni gwyrdd.鈥, meddai鈥檙 Athro Chris Thomas a arweiniodd y gwaith dadansoddi a modelu, 鈥淢ae llawer o鈥檙 halogi byd-eang tybiedig y buom yn ei fapio yn waddod yn sgil y cyfnod diwydiannol 鈥 ac yn gwbl briodol, mae anogaeth i fwyngloddio cyfoes er mwyn rhoi blaenoriaeth i gynaliadwyedd amgylcheddol.鈥
Mae鈥檙 astudiaeth lawn 鈥 Effeithiau mwyngloddiau metel ar systemau afonydd: asesiad byd-eang 鈥 i鈥檞 gweld yma: www.science.org/doi/10.1126/science.adg6704
听