Mae mwynglawdd Ambatovy, sy'n cyfrannu’n helaeth i economi Madagascar ac yn gwmni sy’n arweinydd ym maes mwyngloddio cynaliadwy, ar y trywydd iawn i gyrraedd 'Dim Colled Net' o ran cynefin coedwigaeth unigryw a ddinistriwyd gan y mwynglawdd.
Yn gynyddol mae’n ofyniad ar brojectau seilwaith i gyflawni 'Dim Colled Net' mewn bioamrywiaeth; yn aml trwy ddefnyddio dull dadleuol a elwir yn wrthbwyso bioamrywiaeth. Er gwaethaf y ffaith fod cynlluniau o'r fath yn gyffredin iawn, prin iawn yw'r gwerthusiadau annibynnol ohonynt. Mae a gyhoeddwyd yn Nature Sustainability, yn un o’r gwerthusiadau effaith cwbl annibynnol, a mwyaf cadarn, cyntaf i’w gynnal hyd yma ar wrthbwyso bioamrywiaeth. Mae'r astudiaeth, sy'n canolbwyntio ar fwynglawdd amlwg iawn ym Madagascar, yn awgrymu bod yr ymdrechion gwrthbwyso ar y trywydd iawn i sicrhau 'Dim Colled Net' o'r cynefin coedwigaeth unigryw a ddinistriwyd gan y mwynglawdd.
“Nod Ambatovy yw gwarchod coedwigaeth, drwy arafu datgoedwigo a yrrir gan amaethyddiaeth raddfa fechan mewn mannau eraill, er mwyn gwrthbwyso’r golled i’r goedwig a gafwyd yn sgil ei chlirio ar safle’r mwynglawdd,” meddai Katie Devenish (myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor a phrif awdur yr astudiaeth). “Mae ein dadansoddiad yn awgrymu eu bod eisoes wedi arbed bron cymaint o goedwig ag a gollwyd ar safle’r mwynglawdd. Rydym yn amcangyfrif y cyrhaeddwyd Dim Colled Net o ran coedwigaeth erbyn diwedd 2021.”
Ychwanegodd yr Athro Julia Jones o Brifysgol Bangor:
“Mae gwledydd incwm isel fel Madagascar mewn dirfawr angen o’r datblygiad economaidd a ddaw yn sgil mwyngloddio masnachol. Mae sawl cafeat pwysig i’n canfyddiadau, ond mae’n sicr yn galonogol yr ymddengys fod cyfraniad economaidd Ambatovy i Fadagascar (degau o filiynau o ddoleri’r flwyddyn), wedi dod law yn llaw â lleihau cyfaddawdu pellach ar y cynefin coedwigaeth gwerthfawr sy’n weddill ar yr ynys.”
Prin iawn yw’r gwerthusiadau cadarn o wrthbwyso bioamrywiaeth
Mae’r ymchwil yn defnyddio dulliau arloesol o werthuso effaith strategaeth y mwynglawdd i gyflawni ‘Dim Colled Net’ mewn coedwigaeth fel yr eglura Dr Sébastien Desbureaux, o Ganolfan Economeg Amgylcheddol Montpellier:
“Prin iawn yw’r gwerthusiadau cadarn o wrthbwyso bioamrywiaeth. Mae dros 12,000 o fentrau ar draws y byd sy’n gwrthbwyso bioamrywiaeth, ac mae llai na 0.05% ohonynt wedi cael eu gwerthuso. Mae’n anodd gwneud gwerthusiadau am eu bod yn golygu cymharu canlyniadau a arsylwyd â'r hyn a fyddai wedi digwydd heb yr ymyriad. Mae'n amlwg yn anodd felly amcangyfrif yn achos senario gwrthffeithiol fel yma. Gwnaethom archwilio dros 100 o wahanol ffyrdd o gynnal ein dadansoddiad ac mae’r canlyniadau’n glir.”
Eglura’r Athro Simon Willcock, o Rothamsted Research a Phrifysgol Bangor pam fod cyfyngiadau i’r dadansoddiad:
“Er y gallwn ddangos yn hyderus y gwnaed iawn am y datgoedwigo sy’n gysylltiedig â’r mwynglawdd, ni allwn fesur yr effeithiau ar rywogaethau. Mae'n bwysig nodi hefyd y gallai fod cost i bobl leol yn sgil yr ymdrechion i warchod y goedwig. Mae’n rhaid i ni hefyd ystyried beth fydd yn digwydd pan fydd y cwmni’n gadael yr ardal (disgwylir i hynny ddigwydd rhwng 2040 a 2050) oherwydd heb warchodaeth barhaus a gwaith i adfer safle’r mwynglawdd, a fydd yn dasg anodd iawn, mae’n bosibl y bydd honiad Ambatovy o beri Dim Colled Net dan fygythiad.”
Ychwanega'r Athro Jones:
“Er gwaethaf ymrwymiadau byd-eang, mae coedwigoedd trofannol yn parhau i ddiflannu’n gyflym. Ni all gwrthbwyso bioamrywiaeth o'r fath a astudiwyd yn yr ymchwil hon ddatrys hynny. Mewn gwirionedd, dim ond os ceir datgoedwigo parhaus yn y dirwedd ehangach y mae’r dull yma’n gwneud synnwyr, ond yn anffodus dyna yw’r sefyllfa sydd ohoni. Fodd bynnag, o ystyried y dinistr parhaus hwn, mae'r canlyniad yn cynnig cefnogaeth gref i ofynion ar fwyngloddiau, a datblygiadau mawr eraill, i gyfrannu trwy fuddsoddi mewn ymdrechion cadwraeth. Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos y gall hynny dalu.”
Dyma gasgliad yr Athro Simon Willcock:
“Nid yw datblygiadau seilwaith byd-eang yn debyg o arafu yn fuan. Mae canfod polisïau a all gysoni datblygiad o'r fath yn effeithiol â'r angen i warchod cynefinoedd a rhywogaethau yn hanfodol er mwyn osgoi gwaethygiad pellach yn yr argyfwng ecolegol a hinsawdd. Mae’n un peth cyflwyno polisïau sydd â’r nod o liniaru effeithiau datblygiadau ar fioamrywiaeth ond mae angen inni edrych yn feirniadol ar p’un a'u bod yn cyflawni hynny ai peidio.”
Cyhoeddwyd “” yn y cyfnodolyn Nature Sustainability.