Ymweliad gan Gydweithwyr Prifysgol Genedlaethol a Chapodistraidd Athens
Ar 8fed o Fai, ymwelwyd â ni gan ymchwilwyr o Brifysgol Genedlaethol a Chapodistraidd Athens (Gwlad Groeg) fel rhan o gydweithrediad ymchwil newydd rhwng Labordy Dwyieithrwydd Plant (Prifysgol Bangor, Cymru) a Labordy Seicoieithyddiaeth a Niwroieithyddiaeth (Prifysgol Genedlaethol a Chapodistraidd Athens). Mae'r cydweithrediad hwn yn derbyn cyllid rhannol gan Gynllun Symudedd Ymchwil Taith Prifysgol Bangor. Â
Yn ystod eu hymweliad, mynychodd Dr Evangelia Kyritsi a Dr Michalis Georgiafentis gyfarfod Labordy Dwyieithrwydd Plant i glywed am y gwaith rydym yn ei wneud. Buom yn trafod materion yn ymwneud ag amlieithrwydd mewn plant sydd â datblygiad nodweddiadol ac annodweddiadol. Buom hefyd yn trafod y gwaith sy’n cael ei wneud yma ym Mangor a throsodd yng Ngwlad Groeg i hybu ein dealltwriaeth o’r meysydd hyn, a’r hyn y gellir ei wneud i gefnogi teuluoedd unigolion sydd â chyflyrau sy’n effeithio ar ddatblygiad iaith.Â
Rhoddodd yr ymwelwyr sgyrsiau Cylch Ieithyddiaeth Bangor, yn cynnwys sgwrs wedi ei gyflwyno gan Dr Kyritisi ar ‘plant ag anawsterau lleferydd ac iaith mewn cartrefi ac ysgolion dwyieithog/amlieithog’ i ddiweddaru staff a myfyrwyr yn yr adran ehangach ar y gwaith sy’n cael ei wneud yng Ngwlad Groeg. Wnaethant Dr Kyritisi a Dr Georgiafentis yn ymweld â golygfeydd lleol gydag aelod o’r Lab, cyn ymuno â ni am swper yn Dylan’s Porthaethwy.
Mae aelodau’r Labordy Dwyieithrwydd Plant yn edrych ymlaen at eu hymweld ag Athen yn yr hydref i barhau â’r cydweithio drwy roi sgyrsiau yn y gynhadledd ‘Language Disorders in Greek 9’!Â