Gweithio gydag Annedd Ni a Blas Pontio i Archwilio'r Cysylltiad Rhwng Celf ac Iaith
Mae Gwasanaethau Dydd Annedd Ni yn cynnig gweithgaredd sesiynol i oedolion sydd ag anghenion cymorth. Mae Annedd Ni yn cynnig dewis o wahanol sesiynau sy'n cynnwys sesiynau therapiwtig, hamdden, addysgol a chymdeithasol.听
Mae Blas Pontio yn rhaglen gelfyddydol sy'n cael ei rhedeg gan Pontio Bangor, sy'n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan yn y celfyddydau perfformio.听
Bethan Collins ydw i, rwy'n fyfyriwr PhD 3edd flwyddyn yn yr adran Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd. Fy mhrif ddiddordebau ymchwil yw effeithiau buddiol dod i gysylltiad ag ail iaith yn ystod plentyndod, ac rwy'n angerddol am gynnwys y Gymraeg mewn addysg i bawb. Gyda hyn mewn golwg, pan glywais am y prosiect ar y cyd rhwng Blas Pontio a Chanolfan Dydd Annedd Ni, ni allwn aros i gymryd rhan!
听
听
Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2023, cynhaliwyd prosiect ar y cyd rhwng Blas Pontio a Gwasanaeth Dydd Annedd Ni. Cynlluniwyd y prosiect i archwilio technegau creadigol a chynnwys y celfyddydau i gynorthwyo gyda dysgu iaith newydd. Yng Ngwynedd, rydym mewn lleoliad perffaith i archwilio'r cysylltiad rhwng y celfyddydau ac iaith, rhywbeth nad oedd wedi'i wneud yng Nghymru o'r blaen. Cynhaliwyd deg sesiwn ar gyfer oedolion sydd ag anableddau amrywiol ac anghenion ychwanegol, gyda'r nod o wella eu hagweddau at y Gymraeg a chaniat谩u iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau wrth ddysgu geirfa newydd. Cafodd sesiynau dawns, cerddoriaeth, barddoniaeth a chrefft eu cynnal, ac fe fwynhaodd pawb. Roedd y dull yn arloesol: yn lle gosod targedau penodol, fe wnaethom fabwysiadu agwedd fwy cyfannol. Roeddem yn gobeithio y byddai cynnwys y Gymraeg mewn ffordd fwy naturiol ynghyd 芒 gweithgareddau hwyliog yn helpu i wella agweddau tuag at yr iaith a pharodrwydd i ymgysylltu 芒 diwylliant Cymru. Gweithiodd y dull hwn! Yn ogystal 芒 chael sesiynau hwyliog, archwiliwyd y cysylltiadau cryf rhwng iaith a diwylliant Cymru- dysgon ni am rannau pwysig o ddiwylliant Cymru, fel traddodiadau barddonol a hanes clocsio. Disgrifiodd pawb a gymerodd ran yn y prosiect hwn werth sylweddol prosiectau fel hyn, yn ogystal 芒'u pwysigrwydd ar gyfer ieithoedd lleiafrifol.听
Yn fy marn i, dylai'r Gymraeg fod yn hygyrch i bawb, waeth beth fo'u cefndir. Dyma'r ethos a gafodd ei gynnal drwy gydol y prosiect hwn. Roedd pob un o'r ymarferwyr a fu鈥檔 rhan o鈥檙 prosiect yn angerddol am eu gwaith, ac am estyn croeso i'r bobl sydd wedi eu cau allan o'r gymuned am resymau amrywiol - sy'n bwysig iawn. Roedd bod yn rhan o'r prosiect hwn yn fraint a gobeithio bydd ei llwyddiannau鈥檔 cael ei hailadrodd yn y gymuned ehangach ac ar hyd a lled Cymru.
Er bod hyn yn wahanol i fy ngwaith bob dydd, roedd bod yn rhan o'r prosiect hwn ac ysgrifennu'r adroddiad hwn wedi agor fy llygaid i ffyrdd amrywiol y gallwn ni hyrwyddo dwyieithrwydd ar draws Cymru a thu hwnt. Mae gan iaith rym arbennig i uno cymunedau, rhywbeth sy'n amlwg o'r prosiect hwn. Ac mae hynny'n neges bwysig i hyrwyddo ar draws Cymru. Rwy eisiau dweud diolch arbennig i Mared, am fod mor frwdfrydig ac angerddol a fy nghroesawu i'r sefydliad Blas Pontio gyda breichiau agored. Creodd y t卯m cyfan: Mared Huws, Angharad Harrop, Geth Thomas, Buddug Roberts, Eirini Sanoudaki ac Ed Holden, gyfleoedd ffantastig i bobl archwilio鈥檙 Gymraeg mewn ffyrdd creadigol, a dwi'n methu aros i weld beth yw nesaf ar gyfer y t卯m Blas! Diolch yn fawr i chi i gyd!