Dylid gwneud ceisiadau am ddyrchafiad i ddarllenyddiaeth neu gadair bersonol trwy Bennaeth yr Ysgol a Deon y Coleg.Ìý
Gellir cyflwyno ceisiadau am ddyrchafiad i ddarllenyddiaeth neu gadair bersonol unrhyw bryd; nid oes dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau. ÌýGellir cael y dyddiad ar gyfer derbyn ceisiadau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y pwyllgor ganÌýLauren Roberts.
Ystyrir ceisiadau yn y lle cyntaf gan y Pwyllgor Athrawon a Darllenwyr, a gadeirir gan yr Is-Ganghellor. ÌýOs yw’r pwyllgor yn fodlon y ceir achosÌýprima facie, ceisir asesiadau annibynnol o’r cais gan o leiaf dri unigolyn allanol, sydd fel rheol yn athrawon yn yr un pwnc/maes neu mewn pwnc/maes perthnasol.
Fel rheol, bydd Pwyllgor yr Athrawon a'r Darllenwyr yn ceisio ymdrin â chais o fewn pedwar i chwech mis, ond mae’r amserlen yn dibynnu i ryw raddau ar ganolwyr allanol, ac ar brydiau, gall y broses gymryd mwy o amser. ÌýMae’r pwyllgor yn cyfarfod yn rheolaidd, a bydd yn ymdrin â’r cais cyn gynted â phosib.
Mae’r pwyllgor hefyd yn ymdrin ag enwebiadau ar gyfer athrawon er anrhydedd ac athrawon gwadd.Ìý GwelerÌýOrdinhad XXIIÌýa chysylltwch âÌýLauren RobertsÌýam ragor o wybodaeth.Ìý
Am ragor o ganllawiau a chyngor, cysylltwch ag Ysgrifennydd Pwyllgor yr Athrawon a’r Darllenwyr,ÌýLauren Roberts.
Ìý