Pryd ddechreuoch chi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
2015.
Pam ddewisoch chi weithio yn y Gwasanaeth Iechyd?
Y Gwasanaeth Iechyd yw un o ddarparwyr gwasanaethau gofal iechyd gorau鈥檙 byd. Gwasanaeth sy鈥檔 cynnig gofal o'r eiliad y cewch eich geni hyd y diwrnod y byddwch farw. Mae'n rhan hanfodol o'n cymdeithas y mae pawb yn cofio ei ddefnyddio ar ryw adeg yn eu bywyd.
Disgrifiwch yr hyn rydych chi'n ei wneud.
Ar hyn o bryd fi yw arweinydd y t卯m bydwreigiaeth, rwy鈥檔 arwain t卯m o fydwragedd sy鈥檔 darparu gofal i ferched beichiog sydd angen cefnogaeth ychwanegol yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth. R么l gymunedol yw hon yn bennaf yn gweithio gyda chydweithwyr yn y sector gofal cychwynnol ond mae鈥檔 cynnwysi gwaith amlddisgyblaethol yn y sector eilaidd a鈥檙 trydydd sector.
Beth ydych yn ei fwynhau fwyaf am eich r么l?
Mae pob diwrnod yn wahanol! Bob dydd yn y gwaith rwy'n dysgu rhywbeth newydd. Mae pob ddiwrnod, pob genedigaeth a phob dynes yn wahanol. Mae'n anrhydedd bod yn rhan o daith unigolyn i fod yn rhiant.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n meddwl am yrfa yn y Gwasanaeth Iechyd?
Nid gyrfa miliwnydd mohoni ond byddwch chi'n elwa mewn ffyrdd eraill. Trwy ddefnyddio eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch profiadau, gallwch gael effaith sy'n newid bywydau unigolion a theuluoedd. Mae 鈥渄iolch鈥 diffuant gan rywun y buoch yn gofalu amdano鈥檔 werth mwy nag aur.
Sut byddech chi鈥檔 disgrifio鈥檙 Gwasanaeth Iechyd mewn gair?聽