Cyngor ar gyflwyno crynodebau
Bydd cyflwyniadau鈥檔 cael eu dewis yn seiliedig ar y crynodeb a gyflwynir, dylai鈥檙 crynodeb fod yn glir ac yn gryno (uchafswm o 200 gair) a chynnwys:聽
- Cefndir cryno
- Cwestiwn / nod clir
- Methodoleg gryno
- Canlyniadau cyffredinol
- Casgliadau / arwyddoc芒d.聽聽聽
聽Rhoddir enghraifft o grynodeb enghreifftiol (gan Kirsty MacLeod o Fangor) isod:
Gall defnydd gwahaniaethol o ficrogynefinoedd (fel is-haen) ddarparu neu hwyluso鈥檙 gallu i ddianc rhag ysglyfaethwyr a dal ysglyfaeth, er enghraifft trwy ddylanwadu ar gyflymder gwibio a s诺n a gynhyrchir wrth symud. Fodd bynnag, nid yw pwysigrwydd crypsis clywedol a symudiadau ar gyfer dewis microgynefinoedd wedi cael sylw digonol yn hanesyddol, yn enwedig o gymharu 芒 phwysigrwydd hwyluso crypsis gweledol. Yma rydym yn ymchwilio i ddylanwad mathau o is-haenau ar wibio a lefel y s诺n a gynhyrchir gan symudiad madfallod ffens (Sceloporus undulatus). Yn ein safleoedd astudio, mae madfallod ffens yn byw mewn coetir cymysg gyda thua鈥檙 un faint o goed collddail a choed conifferaidd. Rydym yn gweld tuedd amlwg yn y defnydd o鈥檙 coed, gyda madfallod yn cael eu canfod yn amlach ar goed collddail. Gan ddefnyddio recordiadau acwstig a fideo o fadfallod yn symud ar goed collddail a choed conifferaidd, rydym yn dangos bod madfallod yn gwibio鈥檔 gyflymach ac mae鈥檔 ymddangos bod eu symudiadau yn cynhyrchu llai o s诺n ar goed collddail. Mae'r data hwn yn awgrymu bod madfallod yn defnyddio is-haenau sy鈥檔 fwy tebygol o sicrhau nad ydynt yn cael eu clywed arnynt ac y gallant wibio'n gyflym i loches neu ddal ysglyfaeth. Rydym yn dod i'r casgliad y gallai ffactorau heblaw cuddliw gweledol fod yn bwysig wrth benderfynu ar ddefnydd o is-haen a dylid eu hystyried hefyd mewn astudiaethau o ddewis microgynefinoedd.
Sylwer, er mai dim ond nifer gyfyngedig o gyflwyniadau y gallem eu cynnwys, bydd pob cyflwyniad a wrthodir yn cael cynnig slot poster.
Cyflwyniadau
Dylai cyflwyniadau fod yn 10 munud o hyd gyda 2 funud i gwestiynau a thrafodaeth wedyn.
Dylid cadw sleidiau cyflwyniad mewn fformat PowerPoint (.ppt) neu PDF (.pdf) ar gof bach y dylech ddod gyda chi ar y diwrnod. Bydd y cyflwyniad ar gyfrifiadur Windows.
Cyflwyniadau fflach
Dylai cyflwyniadau fflach fod yn 2 funud o hyd. Gofynnir cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn. Dylid cadw sleidiau cyflwyniad mewn fformat PowerPoint (.ppt) neu PDF (.pdf) ar gof bach y dylech ddod gyda chi ar y diwrnod. Bydd y cyflwyniad ar gyfrifiadur Windows.
Posteri
Dylai posteri fod yn A1 (59.4 cm x 84.1 cm), ar ffurf portread.聽聽