Telerau ac Amodau'r Gronfa Caledi
Ein nod yw ymdrin â cheisiadau, eu trafod a rhoid gwybod i'r myfyrwyr am y penderfyniad o fewn 7 diwrnod gwaith i dderbyn cais gwreiddiol yn yr Uned Cymorth Ariannol neu y Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol.
Mae dyfarnu arian o'r gronfa yn amodol ar fod fyfyriwr wedi cofrestru ac yn dilyn cwrs yma ym Mhrifysgol Bangor.
Telir grantiau trwy BACS i mewn i gyfrif banc myfyriwrÂ
Caiff myfyrwyr wybod am unrhyw benderfyniad trwy e-bost.
Dim ond staff yr Uned Cymorth Ariannol a'r Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol fydd yn gweld y ceisiadau. Mewn rhai achosion efallai y bydd gofyn am wybodaeth ychwanegol gan staff eraill yn y Brifysgol er mwyn llwyddo i wneud y penderfyniad; yn yr achosion hynny, byddwn yn gofyn am eich caniâtad ymlaen llaw.
GDPR: Mae Prifysgol Bangor yn rheolydd data fel y'i diffinnir yn neddfwriaeth. Ni chaiff data personol a chategori arbennig eu defnyddio yn yr Uned at unrhyw ddibenion arall ar wahân i ddibenion ystadegol a chadw cofnodion electronig.