Professor Julian Evans, Sustainability and beyond - with help from trees
Distinguished Alumni Lecture Series
Un ymateb i鈥檙 newid yn yr hinsawdd yw cynyddu nifer y coed rydym yn eu plannu er mwyn storio carbon.听 Bydd coedwigo o'r fath hefyd yn helpu i leddfu dibyniaeth y genedl ar bren wedi'i fewnforio: ond a yw planhigfeydd sy'n tyfu'n gyflym, rhai conwydd, fel arfer, yn gynaliadwy?听 Ystyriwyd y cwestiwn hwn am y tro cyntaf ym Mangor ar ddiwedd y 1960au, gyda chyllid gan y Weinyddiaeth Datblygu Tramor, sef rhagflaenydd Yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol.听 Ers hynny, mae pum cylchdro olynol o binwydd tra chynhyrchiol wedi鈥檜 monitro yn eSwatini (Swaziland), a chredir mai dyma'r arbrawf hiraf yn y byd mewn perthynas 芒 chynaliadwyedd planhigfeydd sy鈥檔 cymharu cnwd ar 么l cnwd.
Mae gan ganlyniadau'r ymchwil oblygiadau i bob coedwig a blannwyd, gan gynnwys coedwigoedd yng Nghymru.听 Yn benodol, 'Pa mor ddiogel yw dibynnu ar gnydau coedwig o'r fath?'
Mae coed a choedwigoedd yn cynnig nifer o fuddion cymdeithasol ac amgylcheddol eraill, a rhagwelir y byddant yn dod yn elfen gynyddol o ddyfodol pob un ohonom.
听
Mae Julian Evans OBE yn Gymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Bangor (2017) a graddiodd o Brifysgol Bangor (BSc 1968; PhD 1972; DSc 1988). Mae鈥檔 Gomisiynydd Coedwigaeth (2020-23) a bu鈥檔 gadeirydd ar Bwyllgor Arbenigol y Comisiwn Coedwigaeth ar Wyddor Coedwigoedd (2013-19).听 Bu gynt yn Athro Coedwigaeth yn Imperial College (1997-2007) ac yn Brif Swyddog Ymchwil i鈥檙 Comisiwn Coedwigaeth (1989-1997). Mae wedi cyhoeddi sawl llyfr a bu'n brif olygydd yr Encyclopaedia on Forest Science.
听
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.
Bydd lluniaeth ar gael ar 么l y ddarlith.