Organebau a Addaswyd yn Enetig : Gelyn neu Gyfaill?
Flynyddoedd maith yn ôl, gwrthododd yr Undeb Ewropeaidd osod Cnydau a Addaswyd yn Enetig ar y farchnad - ond roedd yn dal i ganiatáu mewnforion fel ffa soia o'r Unol Daleithiau. Bwydir y ffa soia hwn i'r rhan fwyaf o'r anifeiliaid rydym ni'n eu bwyta. Felly, ni allai ein ffermwyr dyfu, nac elwa ar fanteision ariannol ac amgylcheddol y gofynion cemegol gostyngol yr oedd ffermwyr yr Unol Daleithiau yn elwa ohonynt – fel yn wir y gwnâi ffermwyr mewn llawer o wledydd eraill hefyd). Pam ddigwyddodd hynny? Diogelwch Does neb wedi marw na brifo oherwydd bwyta bwyd wedi ei addasu yn enetig. Busnesau mawr? Byd busnes. Dim manteision amlwg i ddefnyddwyr? I'r rhai ohonom ni sy'n gweithio yn y maes roedd yn sioc enfawr. Roeddem yn meddwl ein bod yn gwneud y peth iawn i ffermwyr a’r cyhoedd, gan leihau’r angen am blaladdwyr.
Ym mis Mawrth 2023, derbyniwyd Bil yn y Deyrnas Unedig drwy Gydsyniad Brenhinol, sy’n caniatáu i gnydau wedi’u bridio’n fanwl gywir (wedi’u golygu yn enetig) gael eu trin ar wahân i organebau a addaswyd yn enetig, gan fraenaru’r tir ar gyfer cenhedlaeth newydd o gnydau amgylcheddol uwchraddol. Mae’r sefyllfa yn Ewrop yn dal i gael ei thrafod ac yma yn y Deyrnas Unedig rydym yn dal i aros i’r ddeddfwriaeth gael ei phasio. Gobeithiaf ddangos bod golygu genynnau yn dechnoleg ddiogel, gan adeiladu ar y mwtaniadau sydd wedi arwain at holl gnydau heddiw. Byddaf hefyd yn dangos sut mae'n wahanol i addasu genetig - ac yn bwysicach fyth, rhai o'r manteision y gallwn eu disgwyl o fridio manwl gywir.Â
Genetegydd planhigion a chyn fyfyrwraig Prifysgol Bangor yw Dr Tina Barsby OBE ac mae'n enwog am ei llwyddiannau gwyddonol a'i phrofiad yn y sector cnydau amaethyddol. Hi yw'r cyn - gyfarwyddwr a'r Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol, a’r ddynes gyntaf i fod yn brif weithredwr yn hanes y sefydliad dros 90 mlynedd. Graddiodd mewn botaneg amaethyddol ym Mhrifysgol Bangor, cafodd OBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2018 am wasanaethau i’r gwyddorau amaethyddol a biotechnoleg.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.
Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y ddarlith.