Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Cynlluniwyd y rhaglen hon i roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion a chymhwyso dulliau cynllunio ymchwil a dulliau dadansoddol sy'n berthnasol i'r astudiaeth wyddonol o ffisioleg chwaraeon ac ymarfer. Mae'r rhaglen yn hwyluso integreiddio theori ac ymarfer proffesiynol, a thrwy gydol y rhaglen mae'r broses ymchwil a'r pwyslais ar annibyniaeth myfyrwyr wrth ddysgu yn dod yn fwyfwy pwysig.
Programme Length
Blwyddyn yn llawn-amser, astudiaeth ran-amser ar gael hefyd
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.ii o leiaf mewn pwnc perthnasol (neu gyfwerth).
Gellir hefyd ystyried myfyrwyr sydd â gradd o faes academaidd gwahanol. Caiff gweithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau ac eithrio gradd eu hasesu ar sail unigol. Cysylltwch â ni. Mae'n ofynnol i fyfyrwyr yr UE a myfyrwyr tramor, nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, sefyll y prawf Saesneg safonol (IELTS).
Mae myfyrwyr sy'n cael sgôr o 6.0 neu uwch (dim sgôr unigol o dan 5.5) yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i'r cwrs
Gyrfaoedd
Efallai y cewch gyfle i baratoi at hyfforddiant profiad goruchwylio y British Association of Sport and Exercise Sciences (BASES), sydd fel arfer yn rhagofyniad achrediad proffesiynol y gymdeithas.
Mae BASES hefyd yn trefnu cynhadledd flynyddol i fyfyrwyr. Mae cyn-fyfyrwyr MSc wedi ennill gwobrau am y ‘Best Postgraduate Verbal Presentation’ a'r ‘Best Postgraduate Poster Presentation’ yng nghynadleddau BASES i fyfyrwyr. Mae'r gwobrau hyn yn agored i fyfyrwyr MSc, MRes a PhD o holl brifysgolion y DU.
Gwneud Cais
Applicants who are interested in undertaking an MRes programme should first identify a potential supervisor from the staff list available on the .
They should follow the online application process for PhD/MPhil students which can be found .
In addition, students should prepare a brief outline of their proposed area of research to accompany their application form.