Efallai eich bod am fod yn athletwr, cyfarwyddwr perfformiad, rheolwr llwybr neu wyddonydd llwybr, gwyddonydd datblygu dawn, hyfforddwr neu addysgwr hyfforddwyr. Efallai bod gennych ddiddordeb defnyddio chwaraeon ac ymarfer corff i wneud ymchwil a dysgu unigolion a sefydliadau mawr (e.e. y GIG, y llywodraeth) am addasiadau ffisiolegol a seicolegol a manteision iechyd ac ymarfer corff.聽 Efallai eich bod yn gweld manteision meddyliol chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff ac eisiau bod yn seicolegydd perfformiad, cynghorydd ffordd o fyw perfformiad neu seicolegydd ymarfer corff.聽 Nid oes prinder opsiynau gyrfa ym maes chwaraeon a byddai doethuriaeth gwyddor chwaraeon, iechyd ac ymarfer yn eich rhoi ar y trywydd iawn i gael yr yrfa rydych wedi bod yn breuddwydio amdani.