Pam Astudio Seicoleg?
Nod ein hymchwil yw i hyrwyddo gwyddor sylfaenol a chymhwysol. Rydym eisiau deall y cysylltiadau sylfaenol rhwng yr ymennydd ac ymddygiad, a chyfrannu鈥檔 uniongyrchol at iechyd a lles y gymuned.
Ar lefel ymchwil 么l-radd gallwch astudio gradd Meistr trwy Ymchwil (Mhres) neu Ddoethur mewn Athroniaeth (PhD). Nod gradd PhD yw darparu sylfaen gref i chi mewn meysydd ymchwil arbenigol iawn. Trwy astudio yn Ysgol Seicoleg Bangor byddwch yn rhan o gymuned PhD o dros 50 o ymgeiswyr sy'n rhan hanfodol o weithgaredd ymchwil yr Ysgol ac sydd 芒 mynediad at gyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf.
-
Mae'r adran Seicoleg ym Mangor yn adran fawr a chosmopolitan gyda staff a myfyrwyr o bob cwr o'r byd
-
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mwyaf diweddar, roedd 85% o'n hymchwil yn cael ei ystyried yn 'rhagorol yn rhyngwladol' neu 'gyda'r gorau yn y byd'.
-
Graddiodd dros 75% gyda gradd 1af neu 2:1 yn 2021
-
Sefydlwyd yr adran seicoleg ym Mangor ym 1963 gan ei gwneud ymhlith yr hynaf yn y DU
-
Mae gennym lawer o labordai ymchwil arbenigol, yn cynnwys sganiwr MRI, labordai TMS, cyfleusterau EEG a labordy anatomeg ymennydd dynol
Fel ymchwilydd ar ddechrau eich gyrfa gyda ni byddwch hefyd yn cael eich hyfforddi i addysgu fel rhan o'n cwricwlwm datblygiad proffesiynol helaeth a chwarae rhan allweddol yng nghenhadaeth addysgu'r Ysgol. Mae hyn yn rhoi'r sgiliau a'r profiadau angenrheidiol i chi ddilyn gyrfa yn y byd academaidd.
Er bod staff yn gallu goruchwylio myfyrwyr ymchwil mewn sawl maes sy'n ymwneud 芒 Seicoleg, mae gennym arbenigedd gyda'r gorau yn y byd mewn:
- Canfyddiad
- Gweithredu
- Iaith
- Dwyieithrwydd
- Datblygu
- Gwybyddiaeth Gymdeithasol
- Niwrowyddoniaeth
- Seicoleg Glinigol ac Iechyd
- Ymyriadau a Lles
- Seicoleg Ymddygiad.
Cyfleoedd Gyrfa mewn Seicoleg
Gall graddau ymchwil 么l-radd mewn seicoleg eich arwain at yrfaoedd mewn ystod o wahanol leoliadau sy'n cynnwys sefydliadau elusennol, llywodraeth leol a chenedlaethol ac mewn diwydiant lle mae medrusrwydd ymchwil yn werthfawr. Mae'r hyfforddiant ymchwil a ddarperir gan y rhaglenni hyn yn eich galluogi i gynhyrchu gwybodaeth newydd trwy ymchwil wyddonol yn ogystal ag ennill profiad addysgu gwerthfawr.
Gall graddau ar lefel PhD hefyd eich arwain at yrfaoedd mewn prifysgolion lle mae swyddi academaidd fel rheol yn cyfuno ymchwil ac addysgu. Ym Mangor, rhoddir cyfle i fyfyrwyr ar lefel PhD ddatblygu ac ymarfer sgiliau addysgu a all arwain at Gymrodoriaeth Gyswllt 芒'r Academi Addysg Uwch.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.