Digwyddiadau i Ddeiliaiad Cynnig Clirio

Rydym yn falch eich bod yn ystyried Bangor fel eich dewis Clirio ac yn edrych ymlaen at eich croesawu i un o'n digwyddiadau fel eich bod yn cael blas o'r profiad prifysgol unigryw sydd i'w gynnig yma.

Myfyrwyr Bangor yn eistedd ar risiau tu allan i Pontio

Diwrnod Agored i ymgeiswyr Clirio

Rydym yn eich hannog i fynychu'r Diwrnod Agored ar ddydd Sadwrn, 17 Awst. Fel y byddwch yn ei ddisgwyl mewn Prif Ddiwrnod Agored, byddwch yn:听

  • cael mwy o fanylion am eich pwnc
  • gweld yr adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol
  • cyfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
  • gweld y llety i fyfyrwyr
  • cael blas ar fywyd myfyriwr ym Mangor
  • mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
  • ymgyfarwyddo ag adeiladau鈥檙 Brifysgol a dinas Bangor.
Main Arts inner quad with people walking across

Diwrnod Ymweld Clirio

Fel rhywyn sydd wedi cael cynnig lle drwy Clirio, rydym yn eich gwahodd i Ddiwrnod Ymweld Clirio sy'n digwydd ar听ddydd Mercher, 21 Awst.Mae hwn yn ddigwyddiad byrrach sydd wedi ei deilwro. Bydd y Diwrnod Ymweld Clirio yn cynnwys cyflwyniad i Fangor a thaith o'r campws fel rhan o'r听rhaglen.听

Trefnu ymweliad ar ddyddiad arall

Os nad ydych yn gallu dod i'r Diwrnod Agored na'r Diwrnod Ymweld Clirio, yna byddem yn falch o drefnu ymweliad personol i'ch helpu i wneud penderfynaid am eich cynnig Clirio. E-bostiwch diwrnodagored@bangor.ac.uk i drefnu eich ymweliad os gwelwch yn dda.听听

Dwylo gydag ewinedd wedi eu paentio yn wyn yn gafael mewn ff么n symudol
Credit:Paul Hanaoka on Unsplash

Cysylltwch 芒'r Llinell Gymorth Clirio

Gallwch gysylltu 芒'r Llinell Gymorth Clirio ar 0800 085 1818.

Gweld oriau agor y Llinell Gymorth

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?