Teipio ar liniadur

Uned Gyfieithu

Cyfieithu Dogfennau

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu dogfennau o’r Gymraeg i'r Saesneg ac o'r Saesneg i’r Gymraeg. Gallwch anfon ychydig o eiriau o destun atom i'w cyfieithu, neu ddogfen hir.

Os ydych yn defnyddio'r gwasanaeth am y tro cyntaf darllenwch y cyfarwyddiadau isod ar sut i uwchlwytho dogfennau i'w cyfieithu.

Cysylltwch â ni ar cyfieithu@bangor.ac.uk os ydych angen unrhyw gymorth.

Cam wrth gam

  • Cliciwch ar y cyswllt uchod a mewngofnodi i’r system yn defnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair arferol. Dylech roi eich enw defnyddiwr mewn llythrennau bach.
  • Cliciwch ar ‘Creu Project Newydd’ ar waelod y sgrin.
  • Bydd angen i chi nodi eich manylion personol, manylion y gwaith ac unrhyw wybodaeth bellach.
  • Cofiwch roi digon o amser i ni gyfieithu eich gwaith. Os gwelwn na allwn gyfieithu’r gwaith erbyn y dyddiad yr ydych yn ei nodi, byddwn yn cysylltu â chi i drafod.
  • Pythefnos yw’r dyddiad dychwelyd diofyn ond gallwch newid y dyddiad hwnnw os oes arnoch angen y gwaith yn ôl cyn hynny.
  • Yn achos projectau mawr sydd dros 5,000 o eiriau dylech gysylltu â ni ymlaen llaw i roi rhybudd i ni y bydd y gwaith ar ei ffordd ac i drafod amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith.
  • Mae lle ar y ffurflen hefyd i ychwanegu gwybodaeth ychwanegol am y project.
  • Ar y dudalen nesaf gofynnir i chi ddewis rhwng uwchlwytho un ffeil neu nifer o ffeiliau neu deipio neu ludo testun byr o hyd at 250 o nodau cyfrifiadurol mewn blwch.
  • Os yw’r gwaith yn fwy na hynny bydd rhaid i chi uwchlwytho ffeil.
  • Gorau oll os gallwch anfon gwaith atom mewn ffeiliau Word.
  • I orffen, cliciwch y botwm ‘Anfon at yr Uned Gyfieithu’.
  • Yn eich cofnod ar y system bydd y gwaith yr ydych newydd ei anfon at yr Uned Gyfieithu i’w weld mewn GWYN.
  • Unwaith y bydd Swyddog Gweinyddol yr Uned Gyfieithu wedi derbyn y gwaith a chadarnhau’r dyddiad dychwelyd bydd y gwaith yn troi’n FELYN.
  • Wedi i’r gwaith gael ei ddosbarthu i gyfieithydd, bydd yn troi’n LAS.
  • Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau bydd yn troi’n WYRDD ac fe gewch neges e-bost yn gofyn i chi fewngofnodi i’r system i lawrlwytho eich gwaith.
  • Ar ôl agor y project a bydd cyswllt i’r ddogfen wreiddiol ar y chwith a chyswllt i’r cyfieithiad ar y dde. Cliciwch ar y cyswllt i’r cyfieithiad i lawrlwytho’r ddogfen.

Prawfddarllen dogfennau Cymraeg

Rydym yn cynnig gwasanaeth prawfddarllen dogfennau Cymraeg. Gallwch anfon ychydig o eiriau atom i'w prawfddarllen, neu ddogfen hir.

Os ydych yn defnyddio'r gwasanaeth am y tro cyntaf darllenwch y cyfarwyddiadau isod ar sut i uwchlwytho dogfennau i'w prawfddarllen.

Cofiwch, os ydych yn cael unrhyw drafferthion, neu os oes arnoch angen cyngor ynglyn â phrawfddarllen, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy e-bostio cyfieithu@bangor.ac.uk.

Cam wrth gam

  • Cliciwch ar y cyswllt uchod a mewngofnodi i’r system yn defnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair arferol. Dylech roi eich enw defnyddiwr mewn llythrennau bach.
    Cliciwch ar ‘Creu Project Newydd’ ar waelod y sgrin.
  • Bydd angen i chi nodi eich manylion personol, manylion y gwaith ac unrhyw wybodaeth bellach.
  • Cofiwch roi digon o amser i ni brawfddarllen eich gwaith. Os gwelwn na allwn brawfddarllen y gwaith erbyn y dyddiad yr ydych yn ei nodi, byddwn yn cysylltu â chi i drafod. Pythefnos yw’r dyddiad dychwelyd diofyn ond gallwch newid y dyddiad hwnnw os oes arnoch angen y gwaith yn ôl cyn hynny.
  • Yn achos projectau mawr sydd dros 5,000 o eiriau dylech gysylltu â ni ymlaen llaw i roi rhybudd i ni y bydd y gwaith ar ei ffordd ac i drafod amserlen ar gyfer cwblhau’r gwaith.
  • Mae lle ar y ffurflen hefyd i ychwanegu gwybodaeth ychwanegol am y project.
  • Ar y dudalen nesaf gofynnir i chi ddewis rhwng uwchlwytho un ffeil neu nifer o ffeiliau neu deipio neu ludo testun byr o hyd at 250 o nodau cyfrifiadurol mewn blwch.
  • Os yw’r gwaith yn fwy na hynny bydd rhaid i chi uwchlwytho ffeil.
  • Gorau oll os gallwch anfon gwaith atom mewn ffeiliau Word. I ddarllen mwy am y math o ffeiliau y gallwn ac na allwn eu prawf-ddarllen darllenwch y Cwestiynau Cyffredin.
  • I orffen, cliciwch y botwm ‘Anfon at yr Uned Gyfieithu’.
  • Yn eich cofnod ar y system bydd y gwaith yr ydych newydd ei anfon at yr Uned Gyfieithu i’w weld mewn GWYN.
  • Unwaith y bydd Swyddog Gweinyddol yr Uned Gyfieithu wedi derbyn y gwaith a chadarnhau’r dyddiad dychwelyd bydd y gwaith yn troi’n FELYN.
  • Wedi i’r gwaith gael ei ddosbarthu i gyfieithydd, bydd yn troi’n LAS.
  • Pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau bydd yn troi’n WYRDD ac fe gewch neges e-bost yn gofyn i chi fewngofnodi i’r system i lawrlwytho eich gwaith. Ar ôl agor y project a bydd cyswllt i’r ddogfen wreiddiol ar y chwith a chyswllt i'r ddogfen wedi ei phrawfddarllen ar y dde. Cliciwch ar y cyswllt i’r cyfieithiad i lawrlwytho’r ddogfen.

Cyfieithu ar y pryd

Mae’r Uned Gyfieithu yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewnol yn rhithiol dros Zoom ac yn y cnawd. Nid oes modd darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd dros Teams, felly mae’n rhaid defnyddio Zoom er mwyn gallu darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn rhithiol.

Mae’r Uned Gyfieithu hefyd yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer cyflwyniadau myfyrwyr. Os oes gennych fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg a myfyrwyr cyfrwng Saesneg yn yr un dosbarth, gallwch alw ar yr Uned Gyfieithu i ddarparu cyfieithiad o gyflwyniadau’r myfyrwyr i’r Saesneg.

Cyn archebu, darllenwch y Canllawiau Archebu isod yn ofalus, ynghyd â'r Daflen Cyfarwyddiadau Zoom os ydych yn archebu gwasanaeth cyfieithu i ddigwyddiad rhithiol, yna ewch ati i lenwi’r .

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â cyfieithu@bangor.ac.uk

Os ydych eisiau trefnu bod cyfieithydd ar y pryd yn bresennol mewn cyfarfod neu ddigwyddiad, dyma rai canllawiau i’w dilyn:

1. Dylech gynnwys yr holl fanylion perthnasol wrth archebu'r gwasanaeth:

  • dyddiad
  • amser
  • natur y digwyddiad/cyfarfod
  • unrhyw bapurau perthnasol

Os bydd unrhyw rai o’r manylion hyn yn newid, mae’n rhaid rhoi gwybod i’r uned cyn gynted â phosib.

2. Dylech archebu’r gwasanaeth o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn dyddiad y digwyddiad/cyfarfod. Fel rheol, oherwydd y galw mawr am ein gwasanaeth yn ystod oriau gwaith arferol, ni allwn gytuno i ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd y tu allan i oriau gwaith. Yn achos cynadleddau academaidd, mae’n rhaid cysylltu â’r uned o leiaf ddau fis cyn y digwyddiad. Mae croeso i drefnwyr cynadleddau gysylltu â ni cyn hynny am gyngor ar drefniadau ymarferol cyfieithu ar y pryd. Ond ni fydd modd cadarnhau y bydd y gwasanaeth ar gael nes bydd yr uned wedi cael copi o’r rhaglen gyda manylion llawn am y gofynion cyfieithu ar y pryd.

3. Dylech anfon unrhyw bapurau perthnasol at y Prif Gyfieithydd ar y Pryd o leiaf 3 diwrnod gwaith ymlaen llaw er mwyn i’r cyfieithydd allu paratoi at y cyfarfod/digwyddiad. Mae hyn yn bwysig ym mhob achos, ond mae’n hanfodol ar gyfer cyflwyniadau, cyfweliadau, seminarau ymchwil a chynadleddau. Mae’n rhaid anfon cyflwyniadau neu bapurau i’w cyflwyno mewn cynadleddau academaidd o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y gynhadledd.

4. Yn achos cyfweliadau a chyflwyniadau, dylech geisio sicrhau bod yr ymgeisydd/cyflwynydd yn bwriadu siarad Cymraeg. Os bydd mwy nag un unigolyn yn cymryd rhan, dylech geisio sicrhau bod y rhai sy’n bwriadu siarad/cyflwyno yn Gymraeg yn dilyn ei gilydd ar yr amserlen er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser y cyfieithydd, ond cofiwch nad yw cyfieithwyr ar y pryd i fod i gyfieithu am fwy na hanner awr heb saib o 5 munud o leiaf.

5. Ni all yr uned ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn sesiynau cyfochrog yn yr un digwyddiad oherwydd y gofynion eraill sydd ar y gwasanaeth.

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein i archebu'r gwasanaeth.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Prif Gyfieithydd ar y Pryd.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?