Polisi iaith Gymraeg a safonau'r iaith Gymraeg: Canllaw cyflym

Cynllunio Academaidd

  • Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn rhan ganolog o Strategaeth Addysgu a Dysgu'r brifysgol ac o waith cynllunio pob coleg ac ysgol.
  • Bydd cynigion ar gyfer cyrsiau a modiwlau newydd yn ystyried priodoldeb darparu'r cwrs neu fodiwl yn Gymraeg.

Cyflwyno Asesiadau

  • Mae gan bob myfyriwr hawl i gyflwyno ei holl waith ysgrifenedig ac arholiadau yn Gymraeg, beth bynnag fo'r iaith y dysgir y modiwl drwyddi.
  • Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i wneud cyflwyniadau yn Gymraeg.
  • Cyfrifoldeb cydlynydd y modiwl yw trefnu bod gwaith myfyrwyr yn cael ei gyfieithu. Mae cyngor ar gael gan yr Uned Gyfieithu (translation@bangor.ac.uk听/ 2038 ) ac mae'r drefn sydd i'w dilyn wedi'i hamlinellu yn y听Rheoliadau Rhaglenni Hyfforddedig (6.5 Cyflwyno Gwaith yn Gymraeg).

Cefnogi Myfyrwyr

  • Rhaid pennu tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg ar gyfer pob myfyriwr sy'n siarad Cymraeg.
  • Mae holl wasanaethau cefnogi'r brifysgol ar gael i fyfyrwyr yn Gymraeg.
  • Mae gan fyfyrwyr hawl i听ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd:
    • Bydd y brifysgol yn sicrhau bod myfyrwyr, y cyhoedd a chynrychiolwyr o sefydliadau yng Nghymru yn cael cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd.
    • Cyfarfodydd gyda myfyrwyr
    • Cyfarfodydd gyda'r cyhoedd / cynrychiolwyr sefydliadau yng Nghymru: gweler arweiniad
    • Rhaid i ddeunyddiau (e.e. PowerPoints) a arddangosir mewn cyfarfodydd sy'n agored i fyfyrwyr a'r cyhoedd fod yn ddwyieithog.
    • Bydd dogfennau (agenda, cofnodion, papurau) cyfarfodydd cyhoeddus yn ddwyieithog. Bydd dogfennau cyfarfodydd mewnol lle darperir cyfieithu ar y pryd yn ddwyieithog.
    • Os yw aelod o staff y brifysgol yn mynd i gyfarfod yng Nghymru a drefnir gan drydydd parti, dylid ystyried yn ofalus yr iaith a ddefnyddir yn y cyflwyniad; er enghraifft, yng nghyd-destun iaith waith arferol y trydydd parti.

Cefnogi i Staff

  • Gall staff fynd at holl wasanaethau'r brifysgol yn Gymraeg.
  • Gall staff gael hyfforddiant yn yr iaith Gymraeg am ddim ac yn ystod oriau gwaith.
  • Mae staff yn cael eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith ac i ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg.

Gwasanaethau

  • Rhaid i holl 'wasanaethau'r' brifysgol fod ar gael yn Gymraeg i fyfyrwyr, staff a'r cyhoedd yng Nghymru.
  • Bydd gwasanaethau o'r un ansawdd yn Gymraeg ac yn Saesneg, drwy fod yr un mor amlwg, yr un mor hawdd i'w defnyddio a'r un mor effeithiol. Mae hyn yn berthnasol i wasanaethau:
    • Wyneb yn wyneb
      - Dylai gwasanaethau derbyn fod ar gael yn ddwyieithog bob amser a dylai staff bob amser gyfarch ymwelwyr yn Gymraeg a Saesneg.
      - Dylai staff sy'n siarad Cymraeg mewn derbynfa wisgo bathodynnau oren 'Iaith Gwaith' i ddangos eu bod yn siaradwyr Cymraeg.
      - Dylid cael arwydd mewn derbynfeydd yn nodi bod croeso i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn y dderbynfa. Mae'r arwyddion ar gael gan yr adran Cyfathrebu Corfforaethol.

      Cymorth Cymraeg - Siarad
    • Ar y ff么n
      - Dylid ateb galwadau ff么n yn ddwyieithog (Bore da, Prifysgol Bangor / Bore da John Jones ayyb.
      - Dan Safonau'r Iaith Gymraeg mae angen i ni ei gwneud yn glir bod gwasanaeth iaith Gymraeg ar gael. Felly, argymhellir bod staff yn dweud: Fyddech chi鈥檔 hoffi derbyn y gwasanaeth yma yn Gymraeg? / Would you like to receive this service in Welsh?
      - Os yw galwr yn dymuno siarad Cymraeg, rhaid delio 芒'r alwad yn Gymraeg cyn belled 芒 phosib, nes daw'n angenrheidiol i drosglwyddo'r alwad i aelod staff di-Gymraeg gan nad oes aelod staff sy'n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y mater penodol hwnnw.
      - Wrth hysbysebu rhifau ff么n, rhaid i chi nodi (yn Gymraeg) bod y brifysgol yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
      - Bydd peiriannau ateb canolog ac adrannol yn ddwyieithog a byddant yn dweud yn glir ei bod yn bosib gadael neges yn Gymraeg.
      - Rhaid i wasanaethau ff么n awtomataidd fod ar gael yn ddwyieithog.
      - Dylid ffonio myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg (fel y cofnodir yn Banner) gan aelodau staff sy'n siarad Cymraeg pryd bynnag y bo'n bosib.
      - Pa fyddwch yn galw aelodau o'r cyhoedd / cynrychiolwyr cyrff cyhoeddus yng Nghymru am y tro cyntaf, gofynnwch pa iaith yr hoffent ei defnyddio ar y ff么n wrth ddelio 芒'r mater dan sylw a chadwch gofnod o hynny.
      - Dylid parchu dewisiadau iaith ar gyfer galwadau ff么n wrth i alwadau gael eu trosglwyddo rhwng unigolion / adrannau. Os byddwch yn trosglwyddo galwad, rhowch wybod i'r aelod staff arall y deliwyd 芒'r alwad yn Gymraeg hyd at y pwynt hwnnw.
      * Mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at alwadau'n ymwneud 芒 gwasanaethau'r brifysgol

      Cymorth Cymraeg - Siarad

    • Ysgrifenedig
      - Rhaid i ohebiaeth gorfforaethol fod yn ddwyieithog.
      - Rhaid i e-byst / llythyrau / hysbysiadau a anfonir at yr holl fyfyrwyr mewn Ysgol fod yn ddwyieithog
      - Rhaid i e-byst/llythyrau/hysbysiadau a anfonir at fyfyrwyr unigol fod yn yr iaith o'u dewis (fel y nodir yn Banner)
      - Rhaid i ohebiaeth ag aelodau o'r cyhoedd/cyrff cyhoeddus yng Nghymru fod yn ddwyieithog nes eich bod yn gwybod beth yw eu hiaith ddewisol.
      - Rhaid i negeseuon e-bost at grwpiau o staff (e.e. penaethiaid ysgolion, cynrychiolwyr gweinyddol, aelodau grwpiau tasg) sy'n ymwneud 芒 materion swyddogol (e.e. datblygiadau polisi, hysbysiadau pwysig, cyfarfodydd ffurfiol) fod yn ddwyieithog.
      - Os anfonir e-bost at aelod staff unigol gyda'r bwriad iddo gael ei anfon ymlaen at gr诺p o staff (e.e. o fewn coleg), yna dylai'r e-bost gwreiddiol fod yn ddwyieithog.
      - Rhaid ateb gohebiaeth Gymraeg yn Gymraeg.

      Cymorth Cymraeg - Ysgrifennu
    • Ar-lein
    • Ar beiriannau hunan-wasanaeth

Cyhoeddiadau, Ffurflenni, Dogfennau

  • Bydd cyhoeddiadau, ffurflenni a dogfennau'r brifysgol sydd wedi'u hanelu at fyfyrwyr a'r cyhoedd yng Nghymru yn ddwyieithog.
  • Rhaid nodi'n glir ar fersiwn Saesneg cyhoeddiadau fod fersiwn Gymraeg ar gael (Mae鈥檙 ddogfen hon hefyd ar gael yn Gymraeg / This form is also available in Welsh).

Gwefan a Chyfryngau Cymdeithasol

  • Bydd gwefan y brifysgol ac apiau sy'n cynnwys gwybodaeth i fyfyrwyr a'r cyhoedd yn ddwyieithog. (Nid oes angen i wefannau'n cynnwys manylion am brojectau ymchwil fod yn ddwyieithog.)
  • Bydd cyfrifon cyfryngau cymdeithasol corfforaethol ac adrannol yn ddwyieithog.

Ymgyrchoedd Marchnata

  • Rhaid i holl ymgyrchoedd marchnata a gynhelir yng Nghymru fod yn ddwyieithog.

Trefnu Digwyddiadau

  • Rhaid i rai sy'n gyfrifol am drefnu digwyddiadau (e.e. Dyddiau Agored, Cyngherddau,听Darlithoedd Cyhoeddus a Chynhadleddau) sicrhau bod y 'gwasanaethau' sydd ar gael (yn cynnwys arwyddion) yn ddwyieithog. Dylai staff sy'n siarad Cymraeg fod wrth law i roi cymorth. Mae staff sy'n siarad Cymraeg yn cael eu hannog i wisgo bathodynnau oren 'Iaith Gwaith' i ddangos pwy ydynt.

Projectau Ymchwil yng Nghymru

  • Rhaid i bob gwybodaeth yn ymwneud 芒 phrojectau ymchwil sy鈥檔 cael eu cynnal yng Nghymru fod yn ddwyieithog (neu yn iaith ddewisol yr unigolyn).

Arwyddion

  • Bydd unrhyw arwyddion gwybodaeth cyhoeddus (yn cynnwys arwyddion dros dro) y mae'r brifysgol yn gyfrifol amdanynt yn unrhyw le yng Nghymru yn ddwyieithog.

Cyfrifoldeb Rheolwyr

  • Mae Deoniaid, Penaethiaid Ysgolion a Phenaethiaid Gwasanaethau yn gyfrifol am weithredu'r Polisi Iaith Gymraeg o fewn eu maes cyfrifoldeb.
  • Mae rheolwyr yn gyfrifol am sicrhau bod trydydd part茂on yn cydymffurfio 芒'r polisi. Os yw'r trydydd parti'n darparu 'gwasanaeth' fel y diffinnir hynny gan y Safonau, mae'n rhaid i ofynion iaith Gymraeg gael eu cynnwys yn y manylebau tendro. Mae cyngor ar gael gan Bennaeth Pwrcasu a Chanolfan Bedwyr.
  • Rhaid i reolwyr gadw at y Cod Ymarfer ar Benodi Staff yn Unol 芒'r Safonau Iaith Gymraeg.
  • Rhaid i reolwyr hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg o fewn eu hadrannau drwy, er enghraifft:
    • Wneud myfyrwyr yn ymwybodol o'u hawliau i ddefnyddio'r Gymraeg
    • Ganiat谩u i staff ddysgu'r Gymraeg yn ystod oriau gwaith
    • Anfon negeseuon e-bost adrannol dwyieithog
    • Sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio mewn cyfarfodydd adrannol
  • Rhaid i bob Coleg gael cynrychiolydd Cyfrwng Cymraeg ar ei Bwyllgor Rheoli. Rhaid i bob Ysgol gael cynrychiolydd Cyfrwng Cymraeg o blith ei staff darlithio. Dylai pob adran / Coleg adnabod unigolyn i fod yn sy'n gyfrifol am hwyluso defnyddio'r Gymraeg yn yr adran a goruchwylio cydymffurfio 芒'r Safonau Iaith Gymraeg

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?