Pam Astudio Ynni Adnewyddadwy?
- Mae ein staff yn arwain y byd ym maes ymchwil ynni adnewyddadwy o'r m么r, maent wedi ysgrifennu 鈥測鈥 gwerslyfr ar y pwnc, ac ar flaen y gad o ran datblygiadau masnachol ac ymchwil a datblygu yn y sector, gan arwain projectau ymchwil mawr a rhoi arweiniad yn llawer o'r cynadleddau pwysicaf yn y byd.
- Mae gennym long ymchwil a ddefnyddir yn helaeth wrth addysgu ac ymchwilio i fesur adnodd ynni'r cefnfor o amgylch arfordir Cymru. Byddwch yn defnyddio llawer o setiau data ymarferol o fywyd go iawn a chael cyfle i gymryd rhan mewn mordeithiau addysgu ac ymchwilio, gan ddefnyddio amrywiaeth o'r offer diweddaraf.
- Rydym yn gartref i arsyllfa arfordirol sy'n bwydo gwybodaeth amser real y gellir ei defnyddio i fonitro adnodd ynni'r cefnfor.
- Mae gennym gyfleusterau uwchgyfrifiadura y gellwch eu defnyddio, ar y cyd 芒 data a gasglwyd, i efelychu adnodd ynni'r cefnfor yn fanwl dros gyfnodau hir.
Cyfleoedd Gyrfa o fewn Ynni Adnewyddadwy
Mae hwn yn ddiwydiant uwch-dechnoleg byd-eang ac o ganlyniad mae cyfleoedd gyrfa yn helaeth. Yn ogystal 芒 chael cyfle i weithio'n uniongyrchol i ddatblygwr ynni cefnfor, fe allech chi weithio i gwmni ymgynghorol聽metocean聽i ddatblygu modelau ac arsylwi'r adnodd聽in situ, cwmn茂au sy'n cynnal arolygon oddi ar yr arfordir; cyrff amgylcheddol llywodraethol ac anllywodraethol, fel Asiantaeth yr Amgylchedd, sy'n pryderu am effeithiau ynni'r cefnfor; y Swyddfa Dywydd, a sectorau cysylltiedig fel gwynt alltraeth.
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.