麻豆传媒高清版

Fy ngwlad:
Llun tanddwr o blymiwr yn edrych i fyny rhwng y gwymon

Gwyddorau Eigion

MAES PWNC 脭L-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Gwyddorau Eigion

Pam Astudio Gwyddorau Eigion?

Mae'r angen i adnabod a manteisio ar ffynonellau bwyd ac ynni newydd yn erbyn y cefndir o fygythiadau a gwyd yn sgil cynhesu byd-eang yn golygu bod gwyddorau'r eigion yn bwnc sydd 芒'i fryd ar y dyfodol. Ei ddiben yw adnabod problemau a dod o hyd i atebion.聽聽

Mae deall sut mae'r cefnforoedd yn gweithio yn allweddol i ragfynegi sut bydd ein planed yn ymateb i'r hinsawdd sy'n cynhesu. Mae hefyd yn bwysig os ydym am harneisio'r potensial enfawr o ynni adnewyddadwy o'r llanw sydd ddim yn cael ei ddefnyddio i raddau helaeth. Trwy astudio ffiseg y cefnfor, byddwch yn dysgu sut mae'r cefnfor yn gweithio ac yn rhyngweithio ag elfennau eraill o system y ddaear, yr atmospher a'r cryosffer. Byddwch hefyd yn dysgu sut i arsylwi'r cefnfor, o longau ac o'r gofod, ac i ddatblygu modelau rhifiadol i ragfynegi'r cefnfor.聽

Byddwch yn meithrin y sgiliau i allu ymdrin 芒 phroblemau pwysig sy'n gysylltiedig 芒 newid yn yr hinsawdd ac echdynnu ynni o'r cefnfor.

  • Rydym yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu gwyddorau eigion ym Mhrydain ac yn un o'r mwyaf yn Ewrop.
  • Rydym wedi ein lleoli o fewn ychydig fetrau i'r m么r, sy'n ddelfrydol i ddatblygu sgiliau mewn aberoedd, ar lan y m么r ac ar y m么r.
  • Mae gennym long ymchwil fordwyol gwerth 拢3.5m.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Gwyddorau Eigion

Mae graddedigion gwyddorau'r eigion yn gallu gweithio mewn amrywiaeth eang o swyddi, gan gynnwys asesu effaith amgylcheddol a thocsicoleg, monitro/trin llygredd a rheolaeth ar waredu gwastraff, peirianneg arfordirol a pheirianneg ar y m么r (er enghraifft yng nghyswllt y diwydiant ynni adnewyddadwy o'r m么r sydd ar dwf). Gan ein bod wedi bod yn dysgu gwyddorau eigion yma ym Mhrifysgol Bangor ers dros 50 mlynedd fe welwch raddedigion o Fangor mewn swyddi blaenllaw yn y rhan fwyaf o'r diwydiannau hyn.

Mae gradd gwyddorau'r eigion nid yn unig yn cynnig gwybodaeth wyddonol gadarn am amgylchedd y m么r, ond hefyd yn rhoi pwyslais cryf ar sgiliau allweddol a werthfawrogir gan gyflogwyr.

Ein Hymchwil o fewn Gwyddorau Eigion

Mae ymchwil gwyddorau'r eigion ym Mhrifysgol Bangor yn rhychwantu'r byd. Mae ein hymchwil, sydd gyda'r gorau yn y byd, yn ymdrechu i adnabod achosion enciliad yr i芒 ym M么r yr Arctig ac effaith cynhesu byd-eang a llygredd plastig ar riffiau cwrel trofannol. Mewn cydweithrediad 芒'r British Antarctic Survey ac eraill rydym yn ddiweddar wedi canfod lefelau o ficroplastigion sy'n peri pryder mewn ffiordiau dilychwin yn yr Antarctig.聽

Mae ein hymchwil yn astudio hanes y ddaear. Rydym wedi datblygu technegau i feintioli hinsoddau'r gorffennol ar y blaned ac yn defnyddio modelau rhifiadol cymhleth i edrych ar y prosesau allweddol a oedd yn gyrru'r hinsoddau hynny. Yn ddiweddar rydym wedi nodi 'uwch gylchred llanw' sy'n gysylltiedig 芒 drifft cyfandirol ac rydym bellach yn deall sut y gallai'r llanw fod wedi dylanwadu ar esblygiad bywyd ar y ddaear. Rydym wedi gweithio ar y cyd 芒 NASA yn archwilio cyfraniad llanw'r m么r at esblygiad cynnar y blaned Fenws.

Rydym hefyd yn sefydliad blaenllaw mewn ymchwil i wyddor pysgodfeydd a chynhyrchu ynni adnewyddadwy o'r llanw.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.