LLun tanddwr o bysgod mewn riff

Bioleg M么r

MAES PWNC 脭L-RADDEDIG TRWY DDYSGU

Darganfyddwch y cyrsiau o fewn Bioleg M么r

Pam Astudio Bioleg M么r?

Mae'r cynnydd ym mhoblogaeth y byd, ynghyd 芒 heriau a achosir gan newid yn yr hinsawdd, yn rhoi pwysau cynyddol ar adnoddau'r Ddaear. Mae gan Fiolegwyr M么r ran allweddol i'w chwarae yn natblygiad adnoddau bwyd cynaliadwy yn y dyfodol yn wyneb newid yn yr hinsawdd a lefelau cynyddol o wastraff.

Gyda'i gilydd, mae pysgodfeydd sy'n dal o'r gwyllt a dyframaethu yn cynhyrchu tua 200 miliwn tunnell o fwyd y flwyddyn, gyda photensial mawr i ehangu. Fel Biolegydd M么r, byddwch yn meithrin y wybodaeth a'r sgiliau i reoli'r adnoddau pwysig hyn, a sicrhau eu bod yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy fel bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei warchod.

Trwy astudio Bioleg M么r, byddwch yn meithrin y sgiliau gwerthuso beirniadol i nodi a diffinio problemau, a'r sgiliau dadansoddi i allu dod o hyd i atebion iddynt.聽聽

  • Rydym yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu gwyddorau m么r ym Mhrydain.
  • Mae gennym long ymchwil gwerth 拢3.5m a all fynd ar deithiau ymchwil pell, a thair llong lai ar gyfer ymchwil o amgylch y glannau.
  • Mae ein cyfleusterau rhagorol yn cynnwys acwaria m么r trofannol a thymherus, labordai dadansoddi, efelychwyr cludo llif a gronynnau a systemau cyfrifiadurol o'r safon uchaf.
  • Mae gennym fynediad heb ei ail i'r m么r a'r glannau, sy'n ddelfrydol ar gyfer gwneud gwaith arbrofol yn yr amgylchedd rhynglanwol.

Cyfleoedd Gyrfa o fewn Bioleg M么r

Mae Bioleg M么r yn baratoad delfrydol ar gyfer gyrfaoedd mewn ymchwil, pysgodfeydd a dyframaeth, rheoli adnoddau m么r, cadwraeth, cyrff cynghori'r llywodraeth, y cyfryngau gwyddonol, ecodwristiaeth a diwydiannau hamdden eraill, grwpiau dwyn pwysau, a llawer o feysydd eraill lle mae angen sgiliau dadansoddol, a ddarperir gan ein rhaglenni Bioleg M么r.聽聽 Mae ein graddedigion Bioleg M么r wedi symud i yrfaoedd mewn dyframaeth, cadwraeth y m么r, pysgodfeydd, ecodwristiaeth a meithrin pysgod a physgod cregyn.

Ein Hymchwil o fewn Bioleg M么r

Mae gan Brifysgol Bangor hanes hir o ymchwil Bioleg M么r sy'n ymestyn yn 么l dros 100 mlynedd. Mae ein hymchwil yn cynnwys holl barthau'r m么r, yn amrywio o gynefinoedd ar y glannau, fel morfeydd heli, i'r m么r dwfn, ac o'r pegynau i'r trofannau. Ar hyn o bryd mae gennym brojectau ymchwil sy'n canolbwyntio ar ffiordydd yr Antarctig a riffiau cwrel Cefnfor India.

Mae elfen bwysig o ymchwil Bioleg M么r yma ym Mangor yn canolbwyntio ar gadwraeth a rheoli adnoddau m么r. Mae ein hymchwil yn edrych ar sut mae cynnwrf anthropogenig, megis ecsbloetiaeth, rhywogaethau ymledol a newid yn yr hinsawdd, yn effeithio ar ecosystemau'r m么r, ac ar y dulliau gorau o reoli ac amddiffyn yr ecosystemau hyn.

Mae ein hymchwil yn sail i ddiwydiant pysgota o鈥檙 gwyllt a dyframaeth cynaliadwy. Mae hefyd yn ymdrin ag effeithiau ehangach pysgodfeydd a dyframaeth ar ecosystem y m么r, a sut y gallant effeithio ar rywogaethau dalfeydd (pysgod eraill, adar m么r, mamaliaid m么r, organebau gwely'r m么r) a chynefinoedd (e.e. riffiau, gwelyau morwellt). Mae hefyd yn sail i'n datblygiad o ddeorfeydd cynaliadwy ar gyfer pysgod trofannol.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?