Mae'r cwrs dylunio hwn yn wahanol i unrhyw gwrs arall yn y Deyrnas Unedig gan ei fod yn gadael i chi deilwra eich profiadau wrth baratoi at ddod yn ysgogwr newid, yn arloeswr ac yn arweinydd.聽 Byddwch yn datblygu sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddod 芒 chynhyrchion arloesol newydd i'r farchnad a gwneud bywyd yn well, yn haws ac yn fwy cynhyrchiol i gwsmeriaid sy'n gwerthfawrogi ffordd newydd o wneud pethau.
Pam astudio Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor?
- 3ydd am Foddhad Myfyrwyr聽(Complete University Guide 2021)
- Mae 90% o'n myfyrwyr yn cael swyddi yn syth ar 么l graddio ac mae llawer ohonynt yn cael swydd yn y cwmn茂au y buont ar leoliad ynddynt yn eu hail neu eu trydedd blwyddyn.聽(Unistats 2020)
- 2il am聽Gyflogaeth ar 么l 3 blynedd (Longitudinal Employment Outcomes Survey 2020)
- Yn y 15 uchaf am Ansawdd Addysgu聽(Times Good University Guide 2021)
- Rydym yn cynhyrchu myfyrwyr o safon uchel gydag amrywiaeth eang o sgiliau sy'n berthnasol i'r byd go iawn ac mae canran uchel iawn o'n myfyrwyr wedi graddio 芒 graddau dosbarth uwch.
- Ceir tri lleoliad yn ystod y radd yn hytrach nag un lleoliad sy'n para blwyddyn ar ddiwedd y cwrs, ac mae hyn yn rhoi'r cyfle i chi wella a datblygu fel unigolyn
- Gall pob project fod yn friffiau byw gyda phartneriaid o ddiwydiant, sy'n rhoi profiad perthnasol i chi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant dylunio a gweithgynhyrchu.
- Byddwch mewn grwpiau addysgu bach gyda mynediad rheolaidd at gefnogaeth gan diwtoriaid
- Cefnogaeth gan diwtor personol ar lefel addysgol a bugeiliol.
- Nid oes unrhyw gostau ychwanegol am ddeunyddiau nac am ddefnyddio'r stiwdio na'r gweithdy.
- Mae myfyrwyr yn cytuno bod y cwrs hwn yn eu paratoi ar gyfer diwydiant a chyflogaeth.
- Ceir lefelau uchel o ddatblygiad proffesiynol trwy gyfrwng sgiliau cyflwyno llafar a sgiliau ysgrifennu adroddiadau dadansoddol ar leoliadau gwaith
Byddwch yn dysgu rheoli projectau masnachol yn broffesiynol, er mwyn caniat谩u i gwmn茂au fod yn fwy effeithiol, cystadleuol a pherthnasol yn y byd sydd ohoni. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau eich bod yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen i wneud gwahaniaeth, a'ch helpu i roi ar waith y pethau hynny a fydd er lles pobl a'r blaned.
Wedi graddio gallwch fod yn hyderus y bydd eich egni a'ch cyfraniad yn eich galluogi i ragori mewn unrhyw swydd a chael eich gwerthfawrogi gan ddiwydiant. Mae ein myfyrwyr yn aml yn graddio i swyddi鈥檔n syth ar 么l graddio, ac mae llawer ohonynt yn cael swydd gyda'r cwmn茂au lle buont ar leoliad gwaith yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi sylfaen eang i chi mewn dylunio trwy brojectau byw a phrofiad gyda diwydiant a cheir pedwar modiwl ym mhob blwyddyn:
- Profiad Gwaith
- Astudiaeth Pwnc Dylunio (dau fodiwl)
- Ymarfer Proffesiynol
Yn y modiwlau聽Astudiaeth Pwnc,聽 byddwch yn astudio methodolegau dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl a meddylfryd dylunio. Bydd amrywiaeth o friffiau'n eich herio ac yn eich datblygu'n greadigol ac yn broffesiynol. Bydd projectau gyda phartneriaid diwydiannol yn darparu sylfaen a chyd-destun i ddeall sut mae diwydiant yn gweithio. Eich her fydd bod yn greadigol a sicrhau eich bod yn arloesi yn y briff a roddir i chi.
Mae'r rheiny'n cynnwys:
- Egwyddorion Meddylfryd Dylunio
- Creadigrwydd
- Cyfathrebu a Modelu Dylunio
- Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD)
- Gweithgynhyrchu drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAM)
- Sgiliau Gweithgynhyrchu
- Prototeipio
- Datblygu Cynaliadwy a'r Economi Cylchol
- Sgiliau Cyflwyno
Mae'r darlithoedd聽Ymarfer Proffesiynol聽wedi'u cynllunio i'ch addysgu am y materion sy'n effeithio ar ddylunwyr cynnyrch ym myd diwydiant:
- Arloesi Dylunio ar gyfer Diwydiant
- Arweinyddiaeth Strategol
- Rheoli Projectau
- Sefydliadau a Rheolaeth
- Marchnata
- Sgiliau Cyflwyno