Ansawdd a Safonau
Rhagarweiniad
Mae’r Brifysgol yn gyfrifol am safonau academaidd yr holl gymwysterau a ddyfernir yn ei henw, ac am ansawdd addysgu a dysgu myfyrwyr. Dros nifer o flynyddoedd mae Prifysgol Bangor wedi datblygu dull systematig ac integredig o reoli ansawdd a safonau academaidd, gan fabwysiadu amryw o ddulliau sicrhau ansawdd sydd wedi eu llunio i sefydlu, cynnal, monitro ac adolygu safonau academaidd y cymwysterau a gwella ansawdd y cyfleoedd dysgu ar bob pwynt cyflenwi, yn cynnwys darpariaeth ar y cyd mewn sefydliadau sy'n bartneriaid yn y DU ac yn rhyngwladol.Ìý
Mae nifer o egwyddorion allweddol yn sail i ddull y Brifysgol o sicrhau ansawdd:
- Senedd y Brifysgol, gyda chefnogaeth y Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr a'i is-bwyllgorau, sydd â'r prif gyfrifoldeb am reoli safonau ac ansawdd academaidd;
- mae'r Senedd yn cymeradwyo'r fframweithiau, polisïau a gweithdrefnau rheoleiddio sy'n ymwneud â sicrhau ansawdd ;ÌýÌý
- ymrwymiad i hybu diwylliant o welliant parhaus wrth gyflwyno a rheoli rhaglenni ac yn yr amgylchedd dysgu;ÌýÌý
- cysylltiad â myfyrwyr a rhanddeiliaid perthnasol drwy gynrychiolaeth briodol, ymgynghori a dulliau o roi adborth;
- defnyddio pwyntiau cyfeirio allanol a mewnol perthnasol, yn cynnwys Cod Ansawdd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig, datganiadau meincnod pwnc a gofynion a disgwyliadau cyrff proffesiynol, statudol a rheolaethol.ÌýÌý
- defnyddio arbenigwyr pwnc allanol wrth gymeradwyo acÌý adolygu'r cwricwlwm ac wrth fonitro asesu;
- cydnabod mai'r ysgolion sy'n gyfrifol am gyflwyno a rheoli rhaglenni. Mae'n ddyletswydd ar bob aelod o’r staff academaidd i ddarparu'r addysg a ddynodir iddynt, datblygu cwricwlwm a chefnogi myfyrwyr i’r safonau uchaf posibl.Ìý
- Mae gan ysgolion ddulliau cadarn i sicrhau ansawdd a gwella'r holl ddarpariaeth academaidd yn yr ysgol, yn cynnwys rhaglenni graddau ymchwil.Ìý
Pwyntiau Cyfeirio Mewnol
Mae prosesau'r brifysgol i sicrhau ansawdd a safonau wedi'u nodi'n fanwl yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd, sy'n cynnwys cyfres o Reoliadau Academaidd, Codau Ymarfer, Canllawiau a Threfniadau.Ìý Wrth weithredu'r prosesau hyn, mae'r brifysgol yn gallu dangos i gyrff allanol fel yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) bod ganddi drefniadau yn eu lle fel y gall weithredu ei chyfrifoldebau am ansawdd a safonau academaidd yn effeithiol.Ìý
I grynhoi, mae'r brifysgol yn defnyddio'r dulliau sicrhau ansawdd canlynol i'r holl raglenni hyfforddedig:Ìý
- Dilysu ac ail-ddilysu gan gyfoedion, gyda mewnbwn oddi wrth staff academaidd o'r tu allan i'r brifysgol (arbenigwyr pwnc allanol) ac adolygiadau gan y brifysgol a myfyrwyr;ÌýÌý
- Monitro'r rhaglen yn flynyddol, gan dîm y rhaglen;
- Arholwyr Allanol i fonitro safonau academaidd;
- Pwyllgorau'r ysgolion, colegau a'r brifysgol i sicrhau bod rheoliadau, polisïau a threfniadau yn cael eu craffu a'u defnyddio'n gyson, gyda mewnbwn oddi wrth staff academaidd a chynrychiolwyr myfyrwyr;Ìý
- Gwerthuso modiwlau a Phwyllgorau Cyswllt Staff-MyfyrwyrÌý yn darparu systemau ffurfiol fel y gall myfyrwyr roi sylwadau a chodi materion am weithrediad y rhaglen.Ìý
Mae'r dulliau canlynol hefyd yn berthnasol i raglenni graddau ymchwil:
- Arholwyr Allanol i fonitro safonau academaidd;
- Pwyllgorau'r ysgolion, colegau a'r brifysgol i sicrhau bod rheoliadau, polisïau a threfniadau yn cael eu craffu a'u defnyddio'n gyson, gyda mewnbwn oddi wrth staff academaidd a chynrychiolwyr myfyrwyr;Ìý
Cewch fwy o wybodaeth am ddulliau sicrhau ansawdd y brifysgol trwy'r cysylltiadau isod.Ìý
Pwyntiau Cyfeirio Allanol
yw'r corff cenedlaethol sy'n gyfrifol am oruchwylio ansawdd academaidd sefydliadau addysg uwch Cymru.Ìý Amlinellir disgwyliadau'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn yr , sy'n sail wybodaeth fanwl i ddulliau sicrhau ansawdd y brifysgol ei hun. ÌýMae'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn adolygu holl sefydliadau addysg uwch Cymru bob chwe blynedd i gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â disgwyliadau'r Cod Ansawdd, ar hyn a wnânt i gynllunio gweithgarwch gwella, ei ddatblygu a’i ddefnyddio. Adolygwyd y Brifysgol ddiwethaf ym mis Mai 2018, ac adroddodd yr ar ôl hynny:
Ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd, mae'r tîm adolygu'n barnu hyn:
* Mae Prifysgol Bangor yn bodloni gofynion Rhan 1 y Safonau a Chanllawiau Ewropeaidd (ESG) o ran sicrhau ansawdd mewnol.
* Mae Prifysgol Bangor yn bodloni gofynion rheoleiddiol sylfaenol perthnasol y Fframwaith Asesu Ansawdd ar gyfer Cymru.
Mae hon yn feirniadaeth gadarnhaol, sy'n golygu bod gan y Brifysgol drefniadau cadarn i sicrhau safonau academaidd, i reoli ansawdd academaidd ac i wella ansawdd profiad y myfyrwyr.
Mae'r brifysgol hefyd yn sicrhau bod ei holl ddarpariaeth academaidd yn gyson â Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru
- 2022/23 Datganiad Ynglŷn  Chanlyniadau Gradd
Dadansoddiad a throsolwg o'r tueddiadau ym mhroffiliau dosbarthiadau gradd rhwng 2018/19 a 2022/23 - 2021/22 Datganiad Ynglŷn  Chanlyniadau Gradd
Dadansoddiad a throsolwg o'r tueddiadau ym mhroffiliau dosbarthiadau gradd rhwng 2017/18 a 2021/22 - 2020/21 Datganiad Ynglŷn  Chanlyniadau Gradd
Dadansoddiad a throsolwg o'r tueddiadau ym mhroffiliau dosbarthiadau gradd rhwng 2016/17 a 2020/21
- Uned Gwella Ansawdd
- Llawlyfr Ansawdd Academaidd (Rheoliadau a Chodau Ymarfer ac ati)
- Cymeradwyo Rhaglenni / Modiwlau (Dilysu)Ìý
- Adolygiad Blynyddol a Chynlluniau Datblygu
- Arholi Allanol
- Ffurflenni Adroddiadau a Chanlyniadau Ôl-raddedigionÌý
- Archwiliadau Ansawdd Mewnol
- Partneriaeth Gydweithredol, yn cynnwys Cytundebau Cydweithio
- Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoliadol