Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoliadol (PSRBs)
Mae gan lawer o Ysgolion gysylltiadau gyda'r corff proffesiynol a/neu statudol ar gyfer eu maes pwnc, fel y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu'r Gymdeithas Frenhinol Cemeg.Ìý Gall y PSRBs hyn gymeradwy, achredu neu gydnabod rhaglenni Prifysgol perthnasol.Ìý
Pan fo ar PSRBs angen ymwneud â dilysu rhaglen, dylai'r Ysgol gysylltu gydag Wendy Williams, Swyddog Sicrhau Ansawdd (Dilysiadau) mor fuan ag sy'n bosib (w.williams@bangor.ac.uk).Ìý Os yw gofynion PSRB yn gwrthdaroÌý Rheoliadau a Chodau Ymarfer y Brifysgol, cysylltwch â Karen Chidley, Swyddog Sicrhau Ansawdd, am gyngor mor fuan ag sy'n bosib (k.chidley@bangor.ac.uk).Ìý Bydd yn bleser gan yr Uned Gwella Ansawdd roi cefnogaeth i Ysgolion ar unrhyw gam o'r broses achredu.
Mae adroddiadau PRSB yn rhoi sylwadau defnyddiol i'r Brifysgol am addysgu, dysgu ac asesu.Ìý Bydd y Grŵp Cyflawni Sicrhau Ansawdd y Cwricwlwm yn derbyn ac yn adolygu pob adroddiad PSRB ac ymateb ysgrifenedig yr Ysgol iddynt.Ìý Anfonwch adroddiadau ac ymatebion i Karen Chidley cyn gynted ag y byddant ar gael.Ìý Bydd yr Uned Gwella Ansawdd yn cadw cofnod canolog y Brifysgol o achrediadau PSRB.
Dylai ysgolion sicrhau bod ganddynt ddulliau effeithiol o gadw mewn cysylltiad â datblygiadau PSRB rhwng ymweliadau.Ìý
Mae'r PSRBs canlynol yn cymeradwyo, achredu neu'n cydnabod un neu ragor o raglenni (neu fodiwlau) Prifysgol Bangor:
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
ÌýÌý
Ìý
ÌýÌý