Archwiliadau Ansawdd Mewnol
Nodwch fod y broses Archwilio Ansawdd Mewnol wedi cael ei hoedi ar hyn o bryd. Bydd y broses yn cael ei hail-lansio yn ystod y flwyddyn academaidd hon, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn fuan.
Mae鈥檙 Gr诺p Cyflawni Sicrhau Ansawdd y Cwricwlwm, ar ran y Brifysgol, yn archwilio ysgolion bob 6 mlynedd yn eu tro i edrych a yw鈥檙 holl brosesau a dulliau yn ymwneud ag ansawdd a safonau addysgu a dysgu yn bodoli ac yn gweithredu鈥檔 effeithiol ac effeithlon.聽 Mae hefyd yn argymell gwelliannau o ran yr addysgu a鈥檙 dysgu yn yr ysgol.聽Bydd unrhyw ddarpariaeth cydweithrediadol y mae ysgol ynghlwm wrtho鈥檔 cael ei gynnwys fel rhan o鈥檙 archwiliad ansawdd.
Fel rheol bydd ymweliad archwilio鈥檔 para 1 neu 2 ddiwrnod llawn a bydd yn cynnwys:
- Archwilio dogfen hunanwerthuso, cofnodion pwyllgor perthnasol a phob dogfennaeth arall sy鈥檔 ymwneud 芒 dysgu ac addysgu mewn ysgol.
- Cyfarfod(ydd) 芒 Phennaeth yr Ysgol a鈥檙 staff sydd 芒 chyfrifoldeb am wahanol agweddau ar addysgu a dysgu (e.e. arholiadau, gofal bugeiliol, derbyn)
- Cyfarfod(ydd) 芒 chynrychiolwyr y myfyrwyr
- Cyfarfod(ydd) 芒 staff eraill sy鈥檔 ymwneud ag archwilio ansawdd ac/neu addysgu a dysgu (e.e. aelodau staff newydd / gweinyddwyr)
Rhoddir gwybod i ysgol ymlaen llaw beth fydd pwrpas ymweliad o鈥檙 fath, ond bydd yn berthnasol i鈥檙 holl gyrsiau a ddysgir (israddedig ac 么l-raddedig).聽 Pan fydd t卯m Archwilio鈥檔 ymweld ag ysgol, bydd yr eitemau canlynol yn cael eu cynnwys yn yr arolwg:
- Cyrsiau a modiwlau israddedig ac 么l-raddedig
- Systemau adrodd yn 么l
- Cydymffurfio
- Datblygu a Hyfforddi Staff
Yn dilyn yr ymweliad archwilio, darperir adroddiad a fydd yn tynnu sylw at feysydd o ymarfer da, ac yn nodi argymhellion ar gyfer yr Ysgol, y Coleg a鈥檙 Brifysgol.聽 Bydd angen i鈥檙 ysgol ymateb i鈥檙 adroddiad ymhen 12 mis o ddyddiad yr archwiliad, yn nodi sut y mae鈥檔 gweithredu鈥檙 argymhellion a gynigiwyd yn yr adroddiad.