Rydym yn Gwerthfawrogi Hunaniaeth
Mae Prifysgol Bangor Mangor yn croesawu pob myfyriwr sy'n arddel hunaniaeth LHDTC+. Rydym yn anelu i ddarparu man diogel i chi fynegi eich cyfeiriadedd rhywiol ac/neu eich hunaniaeth rhywedd yn llawn. Rydym hefyd yn ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd diogel a chefnogol lle na cheir unrhyw aflonyddu na gwahaniaethu. Rydym eisiau i fyfyrwyr LHDT+ gael y profiad gorau posib yn y brifysgol a mynegir hynny yn ein polisi Polisi Aflonyddu Myfyrwyr ac ein Polisi a Chanllawiau Cydraddoldeb Trawsryweddol i Fyrfyrwyr. Ewch i'n gwe-dudalen Rhannu a Chefnogaeth am ragor o wybodaeth.
Beth yw LHDTC+?
Mae LHDTC+ yn sefyll am Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Thrawsryweddol a Chwiar/Cwestiynu ac ynghyd â Heterorywiol maent yn disgrifio cyfeiriadedd rhywiol pobl neu eu hunaniaeth o ran rhywedd. Tra bod y termau hyn yn cael eu defnyddio'n gyffredin, nid yw pawb yn uniaethu ag unrhyw un o'r categorïau, felly mae Prifysgol Bangor yn cydnabod hawl yr unigolyn i ddewis ei hunaniaeth.
Cefnogaeth a Chyngor
Y Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Helen Munro, y Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cyswllt arbenigol canolog ar gyfer myfyrwyr LHDTC+ sydd angen cyngor, arweiniad neu gefnogaeth.
Ebost: h.munro@bangor.ac.uk
Y Gwasanaeth Lles
Mae'r Gwasanaeth Lles yn rhan o'r Gwasanaeth Cefnogaeth a Lles Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae'r gwasanaeth yn cynnig Cwnsela, Cyngor ar Iechyd Meddwl, Trais Rhywiol a Chefnogaeth Aflonyddu a chyngor ar faterion sy'n ymwneud a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr.
Ebostiwch y gwasanaethlles@bangor.ac.uk i drefnu apwyntiad.
Cymerwch Ran
Cymdeithas LHDTC+ Undod Bangor
Mae gan y brifysgol gymdeithas LHDT+ weithgar sy'n cynnal gweithgareddau i myfywyr. Mae croeso i bawb ymuno, ni waeth beth yw eich cyfeiriadedd rhywiol na sut rydych yn mynegi eich rhywedd a'u nod yw darparu amgylchedd diogel a chroesawgar i aelodau'r gymuned LHDT+. Cadwch lygad allan am ddigwyddiadau a'r ymgyrchoedd a dysgu mwy ar wefan Undeb Bangor.
Gwylio , ffilm fer am ei phrofiad yn dod allan i'w ffrindiau a’i theulu ac yna'n dod i Brifysgol Bangor ac yn ymuno â'r gymdeithas LHDTC+.
Rhwydwaith LHDTC+
Sefydlwyd yn agored i unrhyw un sy’n gweithio ym Mhrifysgol Bangor ac unrhyw fyfyrwyr ôl-raddedig sy’n nodi eu bod yn lesbiaidd, hoyw, bi, traws, queer neu holi, ynghyd â ffrindiau a chynghreiriaid ein cymuned.
Cyngor Undeb Bangor - Cynghorwr Myfyrwyr LHDT+ a Chynghorwr Myfyrwyr Trawsryweddol
yw'r corff o fewn sy'n bodoli i drafod syniadau'n ymwneud â'i bolisïau, ymgyrchoedd a gweithgaredd gwleidyddol, syniadau'n ymwneud â'i gyfleoedd neu i ddatblygu profiad myfyrwyr ym Mangor. Mae'n fforwm hefyd lle gall myfyrwyr Bangor ddal eu swyddogion undeb etholedig a'u cynghorwyr i gyfrif.
Mae'r Cyngor yn cynnwys aelodau o blith y myfyrwyr sy'n cyflawni nifer o swyddogaethau arbenigol, yn cynnwys Cynghorwr Myfyrwyr LHDT+ a Chynghorwr Myfyrwyr Trawsryweddol. Os oes gennych ddiddordeb dod yn Gynghorwr yn Undeb Bangor, yna cysylltwch a undeb@undebbangor.com
Adnoddau
Termau cyffredin
Lesbiaidd - Gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun sy'n hunan-ddiffinio fel merch ac sy'n teimlo atyniad rhywiol a/neu ramantaidd at eraill sy'n hunan-ddiffinio fel merch.
Hoyw - Gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun sy'n hunan-ddiffinio fel dyn ac sy'n teimlo atyniad rhywiol a/neu ramantaidd at eraill sy'n hunan-ddiffinio fel dyn.
Deurywiol - Gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun sy'n teimlo atyniad rhywiol a/neu ramantaidd at ddynion a merched.
Trawsryweddol - Gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio rhywun nad yw'n hunan-ddiffinio â'r rhyw a bennwyd iddo/iddi ar enedigaeth neu nad yw'n uniaethu â chategorïau deuaidd gwryw a benyw.
Hunaniaeth o ran Rhywedd - yn cyfeirio at a yw rhywun yn teimlo eu bod yn wryw, yn fenyw, neu'n peidio ag uniaethu â chategorïau deuaidd rhyw (ni waeth pa rywedd a bennwyd iddo/iddi adeg eu geni).
Mae gan yr nifer o adnoddau gan gynnwys astudiaethau achos o brofiadau myfyrwyr Trawsryweddol.
Mae yn cynnig ymyrraeth mewn argyfyngau ac yn ceisio atal hunanladdiadau ymysg pobl ifanc LHDT+.
Mae yn darparu gwybodaeth bellach ac adnoddau ar-lein defnyddiol ynglŷn â rhywioldeb a hunaniaeth o ran rhywedd.
Mae (Gender Identity Research and Education Society) yn darparu gwybodaeth ar gyfer y gymuned Drawsrywiol gan gynnwys nifer o lyfrynnau addysgiadol.
Efallai y bydd y diagram hwn o'r wefan yn eich helpu i ddeall rhywedd.