Troseddau Casineb a Ddigwyddiadau Casineb
Beth yw Digwyddiadau Casineb?
Mae digwyddiadau casineb a throseddau casineb yn weithredoedd o drais neu elyniaeth sy鈥檔 cael eu cyfeirio at bobl oherwydd pwy ydyn nhw neu pwy mae rhywun yn meddwl ydyn nhw.
Er enghraifft, byddai cael eich cam-drin yn eiriol gan rywun ar y stryd oherwydd eich bod chi鈥檔 anabl, neu oherwydd bod rhywun yn meddwl eich bod yn hoyw, yn ddigwyddiad casineb.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn diffinio digwyddiad casineb fel rhywbeth y mae鈥檙 dioddefwr yn credu a gafodd ei ysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar:
- Anabledd
- Hil
- Crefydd
- Hunaniaeth Drawsrywiol
- Cyfeiriadedd Rhywiol
Gall unrhyw un ddioddef digwyddiad casineb. Er enghraifft, os ydych chi鈥檔 cael eich targedu oherwydd bod rhywun yn meddwl eich bod yn hoyw, er nad ydych chi, mae鈥檔 dal i gael ei ystyried fel digwyddiad casineb.
Beth yw Trosedd Casineb?
Pan mae digwyddiad casineb yn troi鈥檔 drosedd, yna bydd yn drosedd casineb. Gall unrhyw drosedd droi鈥檔 drosedd casineb os caiff ei chyflawni oherwydd gelyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar y 5 pwynt a nodir uchod. Pan fydd trosedd wedi鈥檌 dosbarthu fel trosedd casineb, gall y barnwr osod dedfryd lymach o dan .