Aflonyddu
Beth yw Aflonyddu?
Aflonyddu yw unrhyw ymddygiad di-groeso sy'n tramgwyddo, yn darostwng neu'n brawychu unrhyw un neu sy'n achosi ofn neu ofid. Mae hyn yn cynnwys ymddygiad corfforol, trais rhywiol, ymosodiad, malais geiriol neu ddi-eiriau, gorfodaeth a stelcio, ond nid yw wedi eu cyfyngu i'r rhain. Mewn rhai achosion, gall aflonyddu fod yn gysylltiedig 芒 gender, hil, ethnigrwydd neu wreiddiau cenedlaethol, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd neu gredoau, oed, anabledd neu unrhyw nodweddion personol eraill.
Effaith yr ymddygiad yn hytrach na bwriad y sawl sy'n ei gyflawni sy'n pennu a oedd yn aflonyddu.
Mae enghreifftiau o ymddygiad annerbyniol yn cynnwys y rhain (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu iddynt):
- Cyswllt corfforol: Yn amrywio o gyffwrdd di-groeso at ymosodiad difrifol, ystumiau, bygwth ac ymddygiad ymosodol.
- Ar lafar neu'n ysgrifenedig (yn cynnwys ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol): Sylwadau, awgrymiadau a chynigion di-groeso, sibrydion maleisus, j么cs a thynnu coes, iaith anweddus, gwneud bygythiadau, galw enwau, seibrfwlio.
- Di-eiriau: Llenyddiaeth neu luniau anweddus, graffiti a lluniau cyfrifiadurol, ynysu neu ddiffyg cydweithredu a gwahardd neu ynysu o weithgareddau cymdeithasol.