Myfyrwyr Hyn a Teuluoedd
Yma ym Mangor rydym yn sylweddoli y gall myfyrwyr hŷn, neu fyfyrwyr gyda phlant, teuluoedd neu gyfrifoldebau gofal, fod ag anghenion gwahanol i rai myfyrwyr sy'n dod yma'n syth o'r ysgol ar ôl gwneud lefel A.
Rydym yn deall ei bod yn bosibl bod gennych ymrwymiadau a chyfrifoldebau eraill; y gall y ffordd rydych yn trin bywyd prifysgol, yn academaidd ac yn gymdeithasol, fod yn wahanol; eich bod wedi cael mwy o brofiad yn y ‘byd go-iawn’ efallai, ac i’ch llwybr i addysg uwch fod yn wahanol i un myfyrwyr eraill. Oherwydd y rhesymau hyn, rydym yn cydnabod y gall eich anghenion fel myfyriwr fod yn bur unigryw ac felly rydym yn darparu ystod o wasanaethau cefnogi i sicrhau eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich cynnwys ym mhob agwedd ar fywyd prifysgol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth i Fyfyrwyr HÅ·n yma.
Cyngor Undeb Bangor - Cynghorwyr Myfyrwyr HÅ·n a Myfyrwyr sy'n Rhieni
Cyngor Undeb Bangor yw'r corff o fewn sy'n bodoli i drafod syniadau'n ymwneud â'i bolisïau, ymgyrchoedd a gweithgaredd gwleidyddol, syniadau'n ymwneud â'i gyfleoedd neu i ddatblygu profiad myfyrwyr ym Mangor. Mae'n fforwm hefyd lle gall myfyrwyr Bangor ddal eu swyddogion undeb etholedig a'u cynghorwyr i gyfrif.
Mae'r Cyngor yn cynnwys aelodau o blith y myfyrwyr sy'n cyflawni nifer o swyddogaethau arbenigol, yn cynnwys Cynghorwr Myfyrwyr HÅ·n. Os oes gennych ddiddordeb dod yn Gynghorwr yn Undeb Bangor, yna mae rhagor o wybodaeth ar tudalenau Undeb.