Apeliadau Academaidd
Apêl a wneir yn erbyn penderfyniad Bwrdd Arholi neu gais dilynol i adolygu canlyniad apêl flaenorol yw apêl academaidd. Mae'r Drefn Apeliadau Academaidd yn berthnasol i fyfyrwyr ar bob rhaglen hyfforddedig ac ar bob rhaglen ymchwil ôl-radd a dylid ei darllen cyn cyflwyno apêl.
Ni allwch gwestiynu barn academaidd darlithydd neu arholwr. Mae hyn yn golygu na chewch gwestiynu marc a gawsoch am waith cwrs am eich bod yn credu bod y marc yn rhy isel, ond cewch apelio yn erbyn y penderfyniad os credwch y bu camgymeriad wrth gyfrifo'r marc, bod diffygion neu afreoleidd-dra o ran sut y cawsoch eich asesu neu mewn unrhyw gyfarwyddiadau ysgrifenedig neu gyngor ynglŷn ag asesiadau. Os yw'r mater wedi effeithio ar eraill yn ogystal â chi, gallwch gyflwyno eich apêl ar y cyd fel grŵp, gyda chydsyniad y grŵp.
Cewch gyflwyno apêl academaidd hefyd os oes amgylchiadau arbennig a allai fod wedi cael effaith negyddol ar eich perfformiad academaidd. Er hynny, os na roddwyd gwybod am yr amgylchiadau arbennig i'r Bwrdd Arholi cyn ei gyfarfod, bydd rhaid i chi egluro'n llawn pam na roddwyd gwybod am yr amgylchiadau ar y pryd er mwyn penderfynu a ellir derbyn yr amgylchiadau'n hwyr.
Rhaid cyflwyno apeliadau academaidd yn ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflenni isod ynghyd ag unrhyw dystiolaeth i gefnogi eich apêl.
Dylech hefyd sicrhau bod y ffurflenni hyn yn cael eu cyflwyno cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn penderfyniad Bwrdd Arholi a dylech anfon eich apêl i appeals@bangor.ac.ukÌý/Ìýapeliadau@bangor.ac.uk
Er mwyn i ni ystyried eich apêl, dilynwch y canllaw hwn:
Mae angen gwybodaeth arnom
Gallwch gyflwyno apêl ar ôl i chi dderbyn penderfyniad cychwynnol y Bwrdd Arholi.
Darllenwch yr adran ar apeliadau yn y Drefn Apeliadau Academaidd cyn cyflwyno'r ffurflen hon.
Sicrhewch eich bod yn llenwi o leiaf un o'r adrannau wrth ddilyn y canllawiau ar y ffurflen ac, os yn bosib, yn darparu unrhyw dystiolaeth ategol ar gyfer eich apêl.
Rhaid i apêl gael ei gyflwyno o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y mae myfyriwr yn derbyn penderfyniad y Bwrdd Arholi.
I gyflwyno apêl bydd rhaid i chi lenwi'r Ffurflen Apêl (A).
Cewch ymateb i'ch apêl gan yr ysgol gan ddefnyddio Ffurflen B. Os nad ydych yn fodlon â'r ymateb, gallwch ofyn am adolygiad gan ddirprwy is-ganghellor.
Gwneud cais am adolygiad
Dim ond ar ôl cwblhau'r cam apelio y gallwch gyflwyno cais am adolygiad.
Darllenwch yr adran ar adolygiadau yn y Drefn Apeliadau Academaidd cyn cyflwyno'r ffurflen hon.
Sicrhewch eich bod yn llenwi o leiaf un o'r adrannau wrth ddilyn y canllawiau ar y ffurflen ac, os yn bosib, yn darparu unrhyw dystiolaeth ategol ar gyfer eich cais.
Rhaid cyflwyno ceisiadau am adolygiad o fewn 10 diwrnod i’r dyddiad yr hysbysir y myfyriwr am ganlyniad apêl.
Bydd rhaid i chi lenwi'r Ffurflen Adolygu (C).
Rhoi gwybod am ganlyniad
Cewch ymateb unwaith y bydd eich cais wedi ei ystyried.
Trefn adrodd
Cyflwynwch eich apêl neu gais am adolygiad trwy e-bost i appeals@bangor.ac.ukÌý/Ìýapeliadau@bangor.ac.uk
Os yw'n well gennych, gallwch anfon eich cwyn trwy'r post i'r cyfeiriad canlynol: Prifysgol Bangor, Uwch Swyddog Diogelu, Ymddygiad a Chwynion, Swyddfa Llywodraethu a Chydymffurfio,Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio, Reichel, Ffriddoedd Site, Bangor, LL57 2TW
Camau dilynol
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau, gweithredoedd neu apeliadau sy'n codi o'r broses apelio at yr Uwch Swyddog Diogelu, Ymddygiad a Chwynion Myfyrwyr.
Cwestiynau Cyffredin
Gweler ein cwestiynau cyffredin am restr o gwestiynau ac atebion cyffredin.