Rheoli Projectau: Rheoli鈥檙 PhD (Gweminar)
Rhannwch y dudalen hon
Y cwestiynau i'w gofyn a'r pethau pwysicaf yr ydych chi angen eu gwybod.
Yn eich gyrfa ymchwil, mae'n debyg y byddwch yn gorfod trefnu, dadansoddi a chyflwyno llawer iawn o wybodaeth. 聽Hefyd byddwch yn gorfod rheoli eich amser, gosod nodau ac adolygu cynnydd - ac mae'n debyg y byddwch yn gorfod gweithio gydag eraill i'w hannog i wneud yr un fath. 聽Yn aml gosodir y set sgiliau hon o dan bennawd "Rheoli Projectau" ac mae amrywiaeth eang o gyflogwyr yn chwilio amdani. Erbyn diwedd y sesiwn, dylai'r rhai sy'n bresennol allu:
- Deall meini prawf rheoli projectau'n llwyddiannus ac ystyried hefyd pam mae rhai projectau'n methu聽
- Deall, gwerthuso a gweithredu gwahanol ddulliau i helpu cynllunio ymchwil a chyfathrebu'r cynllun hwnnw 聽
- Gwerthfawrogi pwysigrwydd dadansoddi budd-ddeiliaid a risg聽
Pa un a yw eich PhD yn seiliedig ar d卯m rhyngwladol a chasglu data, neu ar syniad a ddatblygir gennych chi eich hun, bydd y cwrs hwn yn ffordd fuddiol a gwerthfawr o dreulio diwrnod.