Mae ymchwil fforensig DNA a gynhelir gan Brifysgol Bangor mewn cydweithrediad 芒 chwmni deillio Prifysgol Bangor, Wildlife DNA Services, wedi cael effaith sylweddol ar drin a rheoli masnach bywyd gwyllt anghyfreithlon. Deilliodd yr ymchwil o'r angen am dechnegau fforensig DNA i fynd i'r afael 芒 throseddau bywyd gwyllt. Mae ymchwil Bangor i bysgota cynaliadwy wedi creu adnoddau sy'n olrhain taith gyfan pysgod o stoc-i-fforc, gan alluogi rheoli a gorfodi strategaethau rheolaeth pysgodfeydd.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Bangor wedi datblygu marcwyr genetig ar gyfer pedair rhywogaeth flaenoriaethol ar gyfer cadwraeth ac/neu orfodaeth o fewn yr UE (Penfras, Penwaig, Lledod Chwithig, a Chegdduon) er mwyn iddynt ganfod tarddiad eu poblogaeth ac asesu'r amrywiaeth.
Dyma'r project mawr cyntaf i greu profion sy'n adnabod tarddiad daearyddol pysgod morol ar gyfer gorfodaeth pysgodfeydd gyda digon o sicrwydd a lefelau dilysu i fodloni safonau fforensig mewn llys.
Mae ymchwil Bangor wedi gwella rheolaeth stoc gan lywodraeth y DU, wedi effeithio ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn uniongyrchol ac wedi cael ei rhoi ar waith gan y Marine Stewardship Council i sicrhau bod cynnyrch yn cael eu labelu'n gywir.