Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi archwilio'r effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol ar y llefydd y daw ein cynnyrch ffres ohonynt. Gan edrych ar allyriadau nwyon ty藛 gwydr, effeithlonrwydd ynni ac effeithiau cymdeithasol, defnyddiodd ymchwilwyr fodel 么l troed carbon i astudio holl elfennau'r gadwyn gynhyrchu. Cyllidwyd yr ymchwil gan y Rhaglen RELU (Rural Economy and Land Use) ac mae hyn wedi arwain at greu mesurau i gynhyrchwyr bwyd, cyflenwyr ac archfarchnadoedd leihau eu h么l troed carbon.
Roedd casgliadau'r ymchwil yn cwestiynu gwerth prynu cynnyrch bwyd cartref a labelu carbon o ran effeithiau cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'r canlyniadau hefyd wedi effeithio ar ddatblygiad polisi cynaliadwyedd Banc y Byd, cyrff anllywodraethol rhyngwladol, a Llywodraeth Cymru, ynghyd 芒 sbarduno ymwybyddiaeth a thrafodaeth defnyddwyr ar effaith bwyd ar yr amgylchedd.