Crynodeb
Mae marchnadoedd gwasanaethau ariannol manwerthu wedi bod yn ganolbwynt cryn sylw rheoleiddio ers amser maith.  Wrth i'r gwasanaethau hyn ddod yn hollbresennol, mae goblygiadau cymdeithasol sylweddol i'r ffordd y mae'r cynhyrchion hyn yn cael eu prisio a'u defnyddio.  Â
Darparodd yr Athro Ashton yr asesiad cyntaf o'r gosb am deyrngarwch, sef sut mae cwsmeriaid ffyddlon yn talu mwy na chwsmeriaid newydd; a chostau cymhlethdod, sef sut mae darparwyr yn codi prisiau cynhyrchion cymhleth, ym marchnadoedd gwasanaethau ariannol manwerthu'r Deyrnas Unedig. Mae'r canfyddiadau hyn wedi dylanwadu ar reoliadau'r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Rhoddodd Ashton gyngor ar waith yn ymwneud â chymhlethdod i Gyfarwyddiaeth Gyffredinol Iechyd a Diogelu Defnyddwyr y Comisiwn Ewropeaidd. Â
Mae ymchwil Ashton hefyd wedi dylanwadu ar ddatblygiadau polisi y tu hwnt i’w faes penodol. Cyfeirir at yr ymchwil yng ngwerthusiad paneli defnyddwyr Gwasanaethau Ariannol o bolisi gorddrafft y Deyrnas Unedig. Darparodd Ashton hefyd dystiolaeth i ymchwiliad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i'r 'premiwm teyrngarwch' lle mae cwsmeriaid goddefol ar eu colled mewn marchnadoedd cyfleustodau lluosog. Yn dilyn hynny, rhoddodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd gyfarwyddyd i reoleiddwyr ddileu’r gosb am deyrngarwch mewn marchnadoedd ffôn symudol, band eang, yswiriant morgais a chynilion arian parod ac mae’n ymchwilio i’r costau am deyrngarwch sy’n gysylltiedig â chontractau treigl. Â