Crynodeb
Mae ymchwil a wnaed gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor ym maes technoleg iaith i’r Gymraeg fel iaith â llai o adnoddau wedi galluogi datblygu adnoddau ar-lein (offer gwirio sillafu, apiau geiriadur, testun i leferydd, adnabod lleferydd a chyfieithu peirianyddol), a thrawsnewid defnydd o’r Gymraeg mewn amgylcheddau digidol ac effeithio ar fywydau bob dydd pobl ledled Cymru.ÌýMae datblygu adnoddau dan arweiniad ymchwil wedi cynorthwyo i hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fodern sy'n edrych i'r dyfodol, ynghyd â gwella ymarfer mewn diwydiant a dylanwadu ar bolisïau'r llywodraeth.ÌýMae'r effaith wedi ymestyn y tu hwnt i Gymru, gan ddylanwadu ar y map ffordd cydraddoldeb ieithoedd digidol yn rhyngwladol a dylanwadu ar ymarfer yn fyd-eang.
Ymchwilwyr
- Delyth PrysÌý
- Dewi Bryn JonesÌýÌýÌý
- Gruffudd PrysÌý
- Dr Sarah CooperÌý
- DrÌýMyfyrÌýPrysÌý