Crynodeb
Mae ymchwil Prifysgol Bangor ar 'Ddeallusrwydd Artiffisial Emosiynol' (eAI) wedi datgelu angen dybryd a byd-eang i ystyried agweddau moesegol datblygiad technolegau sy'n mesur ac yn rhyngweithio â chyflyrau affeithiol ac emosiynol. Mae'r ymchwil wedi dylanwadu ar lywodraethu, polisïau, modelau busnes ac arteffactau creadigol wrth ddylunio a chymhwyso technolegau newydd byd-eang. Dyma rai o’r effeithiau: cyd-greu meincnodau moesegol cyntaf y byd ar gyfer deallusrwydd artiffisial emosiynol gyda rhanddeiliaid yn yr Unol Daleithiau/y Deyrnas Unedig; dylanwadu ar safonau a phrotocolau dylunio byd-eang ar gyfer emosiynau a thechnolegau sy'n seiliedig ar effaith; egluro hawliau preifatrwydd digidol ar gyfer Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Hawliau Dynol; distyllu safbwyntiau aml-randdeiliad i ddylanwadu ar benderfyniadau am foeseg deallusrwydd artiffisial emosiynol ar draws adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, rheoleiddwyr a chwmnïau yn yr Unol Daleithiau/y Deyrnas Unedig; a llunio rhaglen gwyl ryngwladol, ysbrydoli artistiaid a hysbysu dinasyddion. Â