Three students walking in Bangor High Street next to wall mural

Sesiynau Dydd Sul

Ymunwch â’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol am gyfres o sgyrsiau arbenigol ar feysydd pwnc gwahanol...

Sesiynau Dydd Sul gan Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol

Mae Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol ar fin cynnal cyfres o ddarlithoedd ar-lein yn rhad ac am ddim. Mae’r darlithoedd wedi’u teilwra ar gyfer myfyrwyr sy’n meddwl am astudio yn y Brifysgol. Wedi'u cynllunio i roi blas i chi o sut beth yw astudio ar lefel Prifysgol, maen nhw'n ffordd wych o ddod i adnabod maes pwnc yn well a chael blas ar yr hyn sydd i ddod! Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn darlithoedd drwy Gyfrwng y Gymraeg a Chyfrwng Saesneg. Bydd y sesiynau yn cael eu cyflwyno’n rhithiol trwy Microsoft Teams. Trwy gydol y sesiynau anogir myfyrwyr i gymryd rhan ac mewn dadleuon a thrafodaethau.

Sesiynau ar y gweill

29/09/2024, 11am, Crime in the Life Course (Sesiwn Saesneg) - Ymunwch â'r Athro Stefan Machura am y sesiwn awr rhad ac am ddim hon.

Ìý

6/10/2024, 11am, Killing for Company: The case of Dennis Nilsen (Sesiwn Saesneg) - Ymunwch ag Alun Oldfield, Ditectif Brif Arolygydd sydd wedi ymddeol o Heddlu Gogledd Cymru ac sydd bellach yn rhan o’n tîm addysgu ar gyfer y sesiwn awr. Yn 1983, cafwyd Dennis Nilsen yn euog o chwe llofruddiaeth a dwy ymgais i lofruddio, a chredir iddo ladd o leiaf 15 o ddynion a bechgyn rhwng 1978 a 1982. Cafodd ei enwi’r Muswell Hill Murderer gan y wasg.Ìý Roedd yn cadw ei hun at ei hun, ond hefyd yn cadw cyrff ei ddioddefwyr yn ei fflat i fod yn gwmni iddo. Cafodd ei ddal yn y pen draw ar ôl iddo geisio cael gwared ar ddarnau o gyrff y bobl yr oedd wedi’u lladd, a rhwystro draeniau ei gartref.Ìý Bydd y sesiwn hon yn trafod ei gefndir, sut y cafodd ei ddal a sut y cafodd y dioddefwyr eu hadnabod. Bu'r awdur yn cyfweld â Nilsen yn y carchar flynyddoedd yn ddiweddarach.

13/10/2024, 11am, Post Office Scandal and Miscarriage of Justice in England and Wales (Sesiwn Saesneg) - Ymunwch â'r Athro Martina Feilzer i drefod beth sy'n digwydd pan fydd y rhai sy'n ceisio Cyfiawnder yn gwneud camgymeriad? Bydd y sesiwn hon yn cynnwys trafodaeth ar sut mae’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr wedi’i threfnu i fynd ar drywydd cyfiawnder ac atal aflwyddiant cyfiawnder gan ddefnyddio Sgandal y Swyddfa Bost fel enghraifft o sut y gall pethau fynd o chwith. Sgandal y Swyddfa Bost yw'r aflwyddiant cyfiawnder mwyaf arwyddocaol yn y degawdau diwethaf, o ran nifer y dioddefwr yr effeithir arnynt, a'i oblygiadau ar gyfer cyfiawnder troseddol. Mae'n codi cwestiynau am foeseg erlynwyr, cyfreithwyr, cwmnïau, a'r swyddfa bost, yn ogystal â herio amddiffyniadau dibynadwy treialon teg ac athrawiaethau 'dieuog nes profir yn euog'.

20/10/2024, 11am, The Role of the Police Officer (Sesiwn Saesneg) - Yn y sesiwn hon, bydd Steve Nash yn archwilio rôl hanfodol swyddogion yr heddlu yn ein cymunedau yng ngogledd Cymru a thu hwnt. Mae swyddogion yr heddlu’n gyfrifol am gynnal cyfraith a threfn, amddiffyn y cyhoedd, a sicrhau diogelwch pawb. Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â meysydd megis ymateb i argyfyngau, atal a chanfod troseddau, a'r gwaith ymgysylltu a wneir i feithrin ymddiriedaeth ymysg y gymuned. Bydd y sesiwn yn trafod y dyletswyddau amrywiol y maent yn eu cyflawni, yr heriau y maent yn eu hwynebu, a phwysigrwydd eu rôl wrth feithrin cymdeithas ddiogel a heddychlon. Mae deall eu cyfrifoldebau’n ein helpu i werthfawrogi eu cyfraniad i'n bywydau bob dydd, a phwy a ŵyr, efallai y byddwch yn ffansïo llwybr gyrfa newydd ar ôl y sesiwn hon.

27/10/2024, 11am, How to be a Great Imposter (Sesiwn Saesneg) - YmunwchÌýâ Dr Tim Holmes am y sesiwn awr rhad ac am ddim hon.

3/11/2024, 11am - Ethical Dilemmas in Organ Sales: Should Selling Human Organs be a Crime?Ìý (Sesiwn Saesneg)

10/11/2024, 11am - Sinful Spells? Witches and the Bible (Sesiwn Saesneg)

17/11/2024, 12pm - Living the Existential Life: An Introduction to Existentialism (Sesiwn Saesneg)

24/11/2024, 11am - Navigating the Moral Landscape: Ethical Considerations and Responsibilities in the Treatment of Asylum Seekers (Sesiwn Saesneg)

1 /12/2024, 11am - Illuminating the Darkness: The Winter Solstice in Pagan Traditions (Sesiwn Saesneg)

Cofrestru am sesiwn

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?