Detholiad o sebonau prototeip

IONA Minerals yn partneru 芒 Phrifysgol Bangor i wneud gwaith Ymchwil a Datblygu ar Sebon Diwydiannol Eco-Gyfeillgar

Mae cwmni o Ynys M么n yn cymryd y cam nesaf yn eu proses ymchwil a datblygu, diolch i gyllid gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac arbenigedd ymchwil ym Mhrifysgol Bangor.

Mae sebon wedi bod o gwmpas ers pedair neu bum mil o flynyddoedd ac mae galw mawr am sebonau naturiol yn y farchnad gosmetig ehangach, ond mae鈥檔 llai cyffredin mewn defnydd diwydiannol, megis ar gyfer ffermwyr neu fecanyddion sydd angen glanhawr effeithiol iawn.
"Fel rhywun sydd 芒 diddordeb mewn arloesi a datblygu cynnyrch newydd, roeddwn i鈥檔 awyddus i ddarganfod a allem ni ddatblygu sebon gyda鈥檙 priodweddau cywir i lanhau鈥檙 dwylo heb fod yn rhy arw a heb effeithio ar yr amgylchedd. Mae rhai o'r cynhyrchion sydd ar gael yn cynnwys cemegau neu ficroblastigion i ddarparu'r weithred sgraffiniol honno, sydd wedyn yn cael eu golchi i ffwrdd ac yn achosi llygredd amgylcheddol diangen.

Selwyn Owen,  Rheolwr-Gyfarwyddwr IONA Minerals

Mae'r cynnyrch y mae IONA Minerals yn ei ddatblygu yn defnyddio deunydd naturiol sy'n cael gwared ar docsinau ac sydd 芒 phriodweddau gwrthficrobaidd a gwrthlidiol. Mae cynhwysion eraill yn cynnwys echdynnyn botanegol sydd wedi ei ddefnyddio yn y Dwyrain Canol ers cannoedd o flynyddoedd ac sy'n ewynnu鈥檔 naturiol.

Ar 么l gwneud rhywfaint o ymchwil eu hunain, roedd IONA Minerals yn awyddus i weithio gyda鈥檙 Ganolfan Biogyfansoddion a manteisio ar eu harbenigedd helaeth mewn deunyddiau i symud eu syniadau cynnar iawn o ran cynnyrch yn eu blaenau.

鈥淩han o鈥檔 hymchwil a datblygu yw dod o hyd i'r maint gronynnau priodol ar gyfer y deunydd naturiol sy'n cael ei ychwanegu at y sebon - os ydynt yn rhy fawr yna mae'n rhy arw, os ydynt yn rhy fach yna nid yw'n glanhau nac yn diblisgo鈥檔 ddigonol," meddai Selwyn. "Fe wnaethon hefyd arbrofi gyda gwahanol fasau ar gyfer y sebon, i weld pa un oedd yn ein galluogi i ddosbarthu鈥檙 deunydd yn gyfartal trwy鈥檙 sebon. Fe wnaethon edrych hefyd ar wahanol ffyrdd o ychwanegu'r echdynnyn botanegol; er enghraifft gan ddefnyddio'r powdr cyfan o'r ddeilen wedi ei melino, ac echdyniad dyfrllyd i werthuso'r gwahanol ganlyniadau.

Cyflymu'r broses...

"Mae gweithio gyda鈥檙 Ganolfan Biogyfansoddion yn sicr wedi cyflymu鈥檙 hyn rydyn ni wedi gallu ei wneud. Mae t卯m technegol Mona wedi rhoi llawer o gyngor i ni, ac rydym wedi mabwysiadu hynny fel cwmni. Nawr mae gennym rai samplau prototeip i ddangos i gwsmeriaid posibl ac er mwyn cynnal treialon, er bod gennym dal waith i'w wneud cyn i'r cynnyrch gael ei ardystio a chyn y bydd yn barod ar gyfer y farchnad. Er enghraifft, mae angen i ni edrych ar liw, pecynnu, persawr a beth sydd orau gan ein cwsmeriaid posibl o ran maint a si芒p y sebon. Y peth pwysig yw bod y syniad yn cael ei wireddu, ac rwy鈥檔 meddwl, yn hynny o beth, mae鈥檙 daleb wedi cyflawni ei phwrpas ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth ragorol a ddarparwyd o ran ymchwil a datblygu"

Ychwanegodd Dr Adam Charlton o鈥檙 Ganolfan Biogyfansoddion, 鈥淩ydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cydweithio ag IONA Materials i ddatblygu鈥檙 prototeipiau hyn, gan ddefnyddio ein gwybodaeth am fioddeunyddiau. Fe wnaethom lawer o waith gyda busnesau o Gymru a oedd 芒 diddordeb mewn archwilio cyfleoedd bioseiliedig ar gyfer twf fel rhan o broject Beacon, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru. Mae gan y ganolfan yr adnoddau i helpu cwmn茂au i dreialu deunyddiau, i dynnu鈥檙 risg allan o ddatblygu syniadau ac i helpu i ddatblygu cynhyrchion a phrosesau newydd, gydag allbynnau diriaethol."

Dywedodd Nicola Sturrs, sef Rheolwr Datblygu Busnes y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd ym Mhrifysgol Bangor,

鈥淩ydym yn falch iawn o ddyfarnu Taleb Sgiliau ac Arloesedd i IONA Minerals.听 Mae ein cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd wedi bod yn hynod boblogaidd, ac rydym wedi derbyn llawer iawn o ddiddordeb gan fusnesau ar draws Ynys M么n, Gwynedd a Sir y Fflint.鈥

Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Talebau Sgiliau ac Arloesedd ar gael yma: /cy/business-services/cynllun-talebau-sgiliau-ac-arloesedd

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?