麻豆传媒高清版

Fy ngwlad:

Cynhaliodd Ysgol Busnes Prifysgol Bangor, mewn partneriaeth 芒 Llywodraeth Cymru a Discover Economics, ei chynhadledd economaidd gyntaf erioed ddydd Iau, 24 Hydref, gan ddenu myfyrwyr o bob rhan o ogledd Cymru i drafod cyfraniad hanfodol economeg at ddatblygiad y byd. Roedd y gynhadledd wedi ei chynllunio i danio chwilfrydedd ac ehangu gorwelion, a daeth disgyblion o flwyddyn 11, 12, a 13 at ei gilydd am ddiwrnod o ddysgu rhyngweithiol gyda鈥檙 nod o arddangos grym trawsnewidiol economeg a鈥檌 chyfleoedd gyrfa amrywiol.

Roedd y gynhadledd yn cynnwys sesiynau rhyngweithiol, ymarferol, dan arweiniad economegwyr ifanc o Lywodraeth Cymru a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan gynnig golwg fewnol i fyfyrwyr ar sut mae economeg yn dylanwadu ar benderfyniadau mewn sectorau amrywiol. O bolisi cyhoeddus i fusnes, tynnodd y sesiynau hyn sylw at effaith meddwl economaidd yn y byd go iawn.

Un o uchafbwyntiau'r digwyddiad oedd cyflwyniad i gystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn y Gymdeithas Economaidd Frenhinol, a noddir gan KPMG. Mae鈥檙 gystadleuaeth yn annog myfyrwyr i fynd i鈥檙 afael 芒 rhai o鈥檙 heriau byd-eang mwyaf enbyd, gan gynnig llwyfan cenedlaethol iddynt arddangos eu syniadau a鈥檜 sgiliau dadansoddi.

Dywedodd Riaz Anwar, Uwch Ddarlithydd Cyfrifeg a Chyfarwyddwr Allgymorth ac Ymgysylltu yn Ysgol Busnes Bangor, 鈥淩ydym yn falch dros ben o gydweithio 芒 Llywodraeth Cymru a Discover Economics yn y digwyddiad gwych hwn. Ein nod yw ysbrydoli pobl ifanc trwy ddangos iddynt sut mae economeg yn mynd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth - mae'n ymwneud 芒 datrys problemau'r byd go iawn. Mae鈥檙 gynhadledd hon yn datgloi鈥檙 economeg bosib ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael i fyfyrwyr yn y maes deinamig hwn.鈥

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans: 鈥淕all digwyddiadau fel hyn feithrin chwilfrydedd a helpu i fagu darpar arweinwyr Cymru.

Mae鈥檙 gynhadledd hon yn gyfle i gael profiadau ymarferol yn y byd go iawn a gallai hynny fod yn sbardun i鈥檙 syniad mawr nesaf a fydd yn newid ein bywydau er gwell. Rwy鈥檔 gobeithio i鈥檙 holl ddarpar economegwyr fwynhau鈥檙 profiad ac rwy鈥檔 estyn fy niolch i bawb a wnaeth hyn yn bosibl.鈥

Meddai Dr Jo Davies, Pennaeth Economeg a Gwerth Iechyd y Cyhoedd Llywodraeth Cymru, 鈥淩oedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddisgyblion TGAU a Lefel A yng ngogledd Cymru glywed am y cyfleoedd cyffrous ac amrywiol y gall cymwysterau mewn economeg eu cynnig. Rhoddodd y siaradwyr gwadd gipolwg difyr ar eu gyrfaoedd economeg mewn amrywiaeth o sectorau o'r byd academaidd a'r llywodraeth i ofal iechyd. Roedd y trefnwyr wedi cyfuno cyflwyniadau a thrafodaethau gyda sesiynau rhyngweithiol gan sicrhau diwrnod hynod ddiddorol. Gobeithio bod pawb oedd yma heddiw yn cael eu hysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn economeg.鈥

Meddai Sam McLoughlin, Uwch Reolwr Ymgyrchoedd 鈥 Discover Economics, 鈥淩oedd Discover Economics yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth 芒 Phrifysgol Bangor i gynnal y digwyddiad allgymorth pwysig hwn gyda chefnogaeth allweddol gan Lywodraeth Cymru. Nid yw pawb yn gallu astudio economeg yn yr ysgol ac felly mae'n hanfodol bod digwyddiadau fel hyn yn cael eu cyflwyno, gan agor eu llygaid i'r gyrfaoedd cyffrous a gwerth chweil mewn economeg a all gael effaith gadarnhaol yn eu cymuned."

Dywedodd un disgybl o Ysgol Glan Clwyd, 鈥淢ae dod i Brifysgol Bangor heddiw wedi agor fy llygaid i鈥檙 hyn y gall astudio economeg ei wneud ar gyfer fy ngyrfa a鈥檙 budd y gallaf gael ohono.鈥

Wrth i Ysgol Busnes Bangor baratoi at ei digwyddiad nesaf i ysbrydoli鈥檙 genhedlaeth nesaf, gwahoddir ysgolion a cholegau i ofyn am sesiynau arbenigol ar unrhyw adeg trwy gyflwyno鈥檙 ffurflen hon.

Mae'n gyffrous iawn i fod yma heddiw ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer digwyddiad gwych gyda chant o fyfyrwyr yn mwynhau ystod eang o weithgareddau. Y rheswm pam rydyn ni yma heddiw yw oherwydd ein bod ni eisiau i bobl ifanc gael cipolwg ar fyd economeg ac efallai newid eu canfyddiadau ynghylch yr hyn y gallen nhw ei wneud fel gyrfa mewn economeg, a'r hyn y gallant ei wneud yma yng Nghymru.

Mae'r gynhadledd rydym wedi'i chynnal heddiw yn Ysgol Busnes Prifysgol Bangor yn ysbrydoli myfyrwyr i ddeall beth yw economeg a pham astudio economeg. Mae'n bwnc gwych, perthnasol a chyffrous sy'n helpu i ddatrys problemau bywyd bob dydd go iawn.

Yn y brifysgol ges i gyfle i siarad 芒鈥檙 t卯m gyrfaoedd am nifer o gyfleoedd eang sydd i gael yn y byd economeg. Roeddwn i moin dod n么l i Gymru ac aros yng Nghymru. Roedd cael y cyfle i weld bod Llywodraeth Cymru yn cymryd ml芒n economegwyr o ddiddordeb mawr i mi.

Yn aml, mae llawer o bobl yn meddwl bod economegwyr yn gweithio ym maes cyllid, efallai gweithio yn Llundain, ond mewn gwirionedd, gall pobl ifanc weithio fel economegwyr yma yng Nghymru a chael gyrfaoedd cyffrous iawn. Dyna beth mae'r bobl ifanc yn ei ddysgu heddiw. Rwy'n credu eu bod yn gyffrous iawn wrth weld y drysau a allai agor iddynt ar 么l y digwyddiad hwn i'w helpu i gael gyrfa gyffrous ond hefyd rhoi rhywbeth yn 么l i'w cymuned.

Ffocws arall sydd gennym yma yn Ysgol Busnes Bangor yw ymgysylltu ag ysgolion a gwahodd ysgolion i gymryd rhan yn ein gweithdai rhyngweithiol gan ein bod yn awyddus iawn i gadw talent yng Ngogledd

Gall economegwyr weld un peth ac maen nhw'n gallu ei gyfieithu i rywbeth hollol ddarllenadwy i rywun nad oes ganddynt ddiddordeb mewn economeg, dim dealltwriaeth economaidd.

Roedd gennych bobl dadansoddi data yn siarad am yr hyn maen nhw'n ei wneud a'r hyn maen nhw'n ei astudio a sut mae rhai pobl wedi trosglwyddo o fancio i economeg.

Dwi鈥檔 meddwl bod mynd mewn i fywyd byd busnes erioed wedi bod o ddiddordeb i mi. Dwi鈥檔 meddwl bod yn berchennog ar fusnes neu fod yn rheoli pres am fod yn reit ddiddorol.

Dwi鈥檔 meddwl bod dod yma i Brifysgol Bangor heddiw wedi agor fy llygaid i beth gallai astudio economeg wneud i fy ngyrfa a beth alla i gael o astudio economeg.