DIWRNOD AGORED
Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Agored
Rhannwch y dudalen hon
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs israddedig, cewch flas go iawn ar fywyd prifysgol trwy ddod i Ddiwrnod Agored. Rydym yn gobeithio byddwch yn gallu ymweld â ni – edrychwn ymlaen at eich gweld.
Ar Ddiwrnod Agored, byddwch yn:
- Cael mwy o fanylion am eich pwnc
- Gweld yr adnoddau a chyfleusterau cwrs-benodol
- Cyfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
- Gweld y llety i fyfyrwyr
- Cael blas ar fywyd myfyriwr ym Mangor
- Mynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
- Ymgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor.