Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Bwrsariaethau Bangor

Cwestiynau ac Atebion am Fwrsariaethau Bangor

Os ydych yn fyfyriwr cofrestredig o'r DU / UE yn astudio ar gwrs israddedig amser llawn, gyda ffioedd dysgu o £9,000 yn daladwy a bod incwm trethadwy eich cartref o dan £40,000 gall fod gennych hawl i Fwrsariaeth Bangor. Nid yw myfyrywyr o Gymru yn gymwys os ydynt wedi cychwyn eu cwrs yn 2018.

Nid oes raid i fyfyrwyr o'r DU gwblhau unrhyw ffurflenni ychwanegol. Os ydych yn fyfyriwr UE rhaid i chi gwblhau ffurflen EU18B a'i dychwelyd i Dîm Cyllid Myfyrwyr yr UE.

Pennir eich hawl gan incwm trethadwy eich cartref (h.y. rhiant/rhieni neu bartner), a chawn gadarnhad o hynny gan eich sefydliad cyllid myfyrwyr.

Incwm cartref o dan £25,000 = bwrsariaeth o £1,000

Incwm cartref rhwng £25,000 - £40,000 = bwrsariaeth o £500

Ìý

Byddwn yn asesu bwrsariaethau o ganol Chwefror tan ddiwedd Gorffennaf bob blwyddyn. Anfonir llythyrau yn nodi'r hawl drwy'r post, fel arfer i gyfeiriad cartref y myfyriwr.

Ìý

Telir bwrsariaethau i gyfrif banc myfyriwr mewn un taliad o 1 Mawrth (yr un cyfrif banc y telir eich cyllid myfyriwr iddo).

Ydyn, cyn belled â'ch bod yn cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd.

Gall fod nifer o resymau pam na chafodd eich bwrsariaeth ei hasesu/cymeradwyo/talu. Gwiriwch y canlynol:

  1. Mae arnoch ddyled i'r brifysgol - ffioedd dysgu, ffioedd llety, dirwyon llyfrgell neu achos disgyblu
  2. Efallai nad ydych chi neu eich rhiant/rhieni wedi cydsynio i'ch sefydliad Cyllid Myfyrwyr rannu gwybodaeth â'r Brifysgol. Gellir newid hynny'n rhwydd drwy roi galwad i'r sefydliad cyllido a rhoi'ch caniatâd.ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý
  3. Presenoldeb / ymgysylltiad gwael â'ch astudiaethau. Gallwch wirio'ch presenoldeb / ymgysylltiad trwy'ch cyfrif My Bangor.

Os ydych yn dal i fod yn ansicr ar ôl gwirio'r uchod i gyd, cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol:

E-bost:Ìýcymorthariannol@bangor.ac.ukÌý
Ffôn:Ìý 01248 38 3566 / 38 3636