"un o'r lleoliadau gorau yn y byd"
Mae Gogledd Cymru wedi ei henwi'r 4ydd lle gorau i ymweld 芒 nhw ar draws y byd yn 么l Lonely Planet, yn sgil ei harddwch naturiol a'r cyfleoedd antur sydd ar gael yn yr ardal.
Barod am Antur?
Pam ddim manteisio ar yr ardal anturus yma yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol? Cewch reidio'r tonnau yn Surf Snowdonia, gwibio i lawr y wifren wibhiraf yn Ewrop yn Zip World a neidio ar drampolinau dan ddaear yn Bounce Below.
Ym Mangor
Mae gan Fangor y stryd fawr hiraf yng Nghymru, gyda chymysg o siopau cenedlaethol a busnesau lleol bychan. Mae'r mwyafrif o adeiladau'r Brifysgol a neuaddau o fewn pellter cerdded o ganol y ddinas.
Ym Mangor, mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig canolbwynt ar gyfer gweithgareddau ac adloniant ac mae ein holl glybiau a chymdeithasau am ddim i ymuno 芒 nhw.
Mae rhaglen fuddsoddi gwerth miliynau eisoes wedi arwain at neuaddau preswyl newydd i fyfyrwyr a chlwb nos newydd Undeb y Myfyrwyr a chyfleusterau academaidd.
Canolfan Chwaraeon
Mae Chwaraeon Bangor, sef canolfan chwaraeon y Brifysgol wedi ei leoli ym Mhentref Ffriddoedd. Mae'n cynnwys campfa deulawr, neuaddau chwaraeon, wal ddringo, cyrtiau sboncen a cromen chwaraeon newydd sbon sy'n gartref i gyrtiau p锚l-rwyd a thenis dan do.
Canolfan Pontio
Mae yn sefydliad o fri byd-eang ym maes arloesi mewn gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau creadigol.Yn ogystal 芒 bod yn gartref i Undeb y Myfyrwyr, mae'n cynnwys theatr, sinema, ystafelloedd darlithio, mannau cynnal arddangosfeydd, bar a llefydd bwyta.
Dau Bentref Llety i Fyfyrwyr
Mae 600 o ystafelloedd ym Mhentref Santes Fair, gydag amrywiaeth o lety gan gynnwys fflatiau stiwdio a tai tref, bar caffi, siop, golchdy, ystafelloedd cyffredin a chyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd.
Mae'r llety'n Santes Fair yn ogystal i'r 2,300 o ystafelloedd a leolir ym Mhentref y Ffriddoedd a Neuadd Garth.
O amgylch Bangor
Ynys M么n
Ynys M么n yw un o'r llefydd mwyaf poblogaidd gan ymwelwyr sy'n dod i ogledd Cymru, yn bennaf oherwydd y milltiroedd o draethau a llwybrau arfordirol a cheir yno.
Mae tref Porthaethwy, sy'n gartref i Ysgol Gwyddorau Eigion y Brifysgol, rhyw chwarter awr o gerdded i ffwrdd o Fangor Uchaf ac yno mae nifer o siopau bychain, tai bwyta, caffis a thafarndai.
Ac os oes gennych awydd mentro dros y d诺r i Iwerddon, gallwch deithio yno o borthladd Caergybi, sydd rhyw hanner awr i ffwrdd o Fangor ar y tr锚n.
Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn baradwys i'r rhai hynny ohonoch sy'n gwerthfawrogi natur ar ei harddaf. Mae'r parc yn 25 milltir o drysor cenedlaethol sy'n cynnwys nifer o atyniadau.
Gallwch chi fwynhau chwaraeon awyr agored megis cerdded, dringo, beicio a chan诺io yn yr ardal, sydd hefyd yn gartref i lag诺n syrffio Surf Snowdonia, gwifrau zip hiraf a chyflymaf Ewrop yn Zip World, a neidio ar drampolinau tanddaearol yn ogofau Bounce Below!
Mae nifer o glybiau chwaraeon y Brifysgol yn trefnu teithiau i Eryri'n rheolaidd.
Mae bod yn Gymraes ym Mangor yn anhygoel. Mae modd astudio llawer o gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg, mae bod yn rhan o neuadd JMJ yn brofiad bythgofiadwy, ac mae'r gymuned yn un gartrefol iawn.
Llio Wyn Owen
Athroniaeth a Chrefydd