Mae Prifysgol Bangor yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig ar y cyd â Choleg Imperial Llundain mewn rhwydwaith ymchwil sydd newydd ei ffurfio a gyllidir gan raglen Cooperation in Science and Technology (COST) y Comisiwn Ewropeaidd. Enw’r rhwydwaith yw ‘Language in the Human-Machine Era’ (LITHME) gydag aelodau o 52 gwlad, ac mae’n ymchwilio i sut mae datblygiadau technolegol, megis, sbectol glyfar a theclyn clust clyfar yn debygol o newid ein ffordd o gyfathrebu bob dydd a’n galluogi i gyfieithu geiriau rhywun arall ac o ganlyniad, yn newid iaith.
Mae LITHME yn ceisio pontio'r bwlch rhwng ieithyddion ac arbenigwyr technoleg, fel bod ieithyddion yn gallu elwa o well gwybodaeth dechnolegol a bod arbenigwyr technoleg yn gallu elwa o well dealltwriaeth o ganlyniadau ieithyddol a chymdeithasol posib technolegau newydd.
Fel cam mawr cyntaf, mae'r rhwydwaith Language in the Human Machine Era wedi cyhoeddi sy'n dwyn ynghyd drafodaethau gan ddwsinau o arbenigwyr ym meysydd technoleg iaith ac ymchwil ieithyddol. Byddant yn cynnal eu hysgol hyfforddi gyntaf ar 4-8 Hydref yn Ávila, Sbaen i ysgolheigion a datblygwyr technoleg o bob rhan o Ewrop a thu hwnt. Bydd Dr Cynog Prys, o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor, sy'n gyd-awdur yr adroddiad, yn siarad am hawliau iaith yn yr oes ddigidol yn ystod yr ysgol hyfforddi ()
Meddai Dr Prys, sy’n gymdeithasegydd ac sydd hefyd yn aelod o bwyllgor rheoli'r rhwydwaith ac yn is-gadeirydd y gweithgor hawliau ieithyddol,
"Mae datblygiadau mewn cyfathrebu digidol wedi chwyldroi sut rydym yn cyfathrebu ac yn cyrchu gwasanaethau dros y degawd diwethaf. Mae hyn wedi cael ei ddwyn i'r amlwg a'i gyflymu gan y pandemig Covid-19 a'r newidiadau cymdeithasol sydd wedi dod yn ei sgil. Gyda datblygiad technoleg y gellir ei gwisgo a deallusrwydd artiffisial, rydym bellach ar drothwy newidiadau pellach fydd yn newid y ffordd yr ydym yn cyrchu gwybodaeth ac yn rhyngweithio ag eraill. Bydd gan y datblygiadau hyn oblygiadau pellgyrhaeddol i hawliau ieithyddol ac iaith mewn cymdeithas amlieithog.”
Meddai Dave Sayers o Brifysgol Jyväskylä yn y Ffindir, cadeirydd y rhwydwaith, “Yn fuan, ni fyddwn yn syllu ar ffonau symudol yn ein dwylo; bydd y wybodaeth honno'n ymddangos o flaen ein llygaid trwy sbectol fach. Ynghyd â chlustffonau clyfar newydd, byddwn yn gweld ac yn clywed gwybodaeth ychwanegol am y byd o'n cwmpas: pethau sylfaenol fel cyfarwyddiadau teithio, a chynnwys mwy datblygedig fel cyfieithiadau o bobl yn siarad ieithoedd eraill. Bydd ein geiriau ein hunain yn cael eu chwyddo, eu hegluro, eu cyfieithu a'u hisdeitlo wrth i ni siarad; a bydd pobl eraill yn gweld ac yn clywed hynny yn eu technoleg llygaid a chlust.”'
Dechreuodd y project rhwydweithio pedair blynedd ym mis Hydref 2020 ac ar hyn o bryd mae’n cynnwys aelodau o bob un o 27 talaith yr UE ynghyd â 25 o wledydd eraill o bob cyfandir. Ceir wyth gweithgor sy'n cynrychioli gwahanol feysydd ymchwil iaith: ieithyddiaeth gyfrifiadurol, iaith a’r gyfraith, hawliau ieithyddol, amrywiaeth ieithyddol, hyfywedd a pherygl, dysgu ac addysgu iaith, ideolegau, credoau, agweddau, gwaith iaith, gweithwyr proffesiynol iaith ac amrywiad ieithyddol.
Meddai Sviatlana Höhn (Prifysgol Lwcsembwrg), is-gadeirydd LITHME, a chyd-awdur a golygydd adroddiad cyntaf y rhwydwaith The Dawn of the Human-Machine Era, “Mae LITHME yn dwyn ynghyd pobl sy’n gweithio ar wahanol agweddau ar iaith na fyddent fel arfer yn siarad â'i gilydd. Rydym yn gweld canlyniadau cyntaf y cyfnewid syniadau hwn yn ein hadroddiad: roeddem yn gallu casglu amrywiaeth o farn a ffeithiau mewn un ddogfen a gynhyrchwyd gan ymchwilwyr na fyddent fel arall erioed wedi gweithio gyda'i gilydd ar un cyhoeddiad. Mae'n gymorth i ni ddysgu oddi wrth ein gilydd, ac o gymunedau eraill”.
Meddai Dr Prys, “Mae hwn yn broject anhygoel o bwysig a chyffrous gan y bydd y technolegau newydd hyn yn effeithio ar bron pob agwedd ar ein bywydau pob dydd. Rydym eisoes wedi dechrau ar y llwybr hwn gyda'r defnydd o gyfieithu peirianyddol ar-lein fel Google Translate a meddalwedd adnabod llais ar ein dyfeisiau symudol a chynorthwyydd cartref fel Alexa a Siri.
"Ond rydym yn gwybod nad yw pob iaith, na phob grŵp, yn cael eu trin yn gyfartal yn y chwyldro digidol hwn, ac erys pryder ynglŷn â sut gallai rhai cymunedau iaith heb ddigon o adnoddau a grwpiau ymylol gael eu gadael ar ôl erbyn oes y peiriant dynol sydd ar ddod. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gyfrannu fy arbenigedd fy hun wrth asesu sut mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio ym mywyd pob dydd ac ar lwyfannau digidol i'r project hwn, wrth i ni edrych tuag at ddyfodol Ewrop amlieithog a gweddill y byd.”