Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Bethan Scorey

Ymchwilydd Doethurol ac Aelod Cyswllt Ymchwil ac Ymgysylltu

O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Rwy'n dod o Gaerdydd ac rwy'n dal i fyw yma.

Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Rwy’n ymchwilio i hanes pensaernïol a hanes gerddi Castell Sain Ffagan, plasty o oes Elisabeth yng Nghaerdydd. Wrth gwrs, daeth y plasty a’r tiroedd yn gartref i Amgueddfa Werin Cymru ym 1948. Dechreuais fy mhroject yn 2020.

Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Hanes pensaernïol, pensaernïaeth Elisabethaidd, hanes gerddi, plastai Cymreig.

Llun o Bethan o flaen baner ISWE.

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Astudiais bensaernïaeth ym Mhrifysgol Caerfaddon ar lefel israddedig, ond bob haf/gwyliau prifysgol roeddwn yn gweithio fel Gofalydd yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, lle dechreuais ymddiddori mewn hanes pensaernïol. Arweiniodd hyn at graddfeistr mewn hanes adeiladau ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac ymlaen i’r PhD hwn! Rwyf hefyd wedi gweithio a gwirfoddoli i sefydliadau treftadaeth fel SAVE Britain’s Heritage a C20 Cymru, sef adain Gymraeg y Twentieth Century Society. 

Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Mae'n wych bod yn rhan o garfan o ymchwilwyr doethurol sy'n astudio gwahanol feysydd a chyfnodau o hanes. Mae ein holl symposiwm a chynulliadau dros y blynyddoedd wedi rhoi dealltwriaeth well, fwy cyfannol i mi o hanes a diwylliant Cymru, yn ogystal â bod yn llawer o hwyl!

Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Fis Ionawr eleni cyflwynais bapur yng nghynhadledd flynyddol 'New Insights into C16 and C17 British Architecture' yng Nghymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain, i rai o ysgolheigion blaenllaw ym maes pensaernïaeth Elisabethaidd.

Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Cyfnod Elisabethaidd yn bendant, oherwydd ei fod yn gyfnod mor hwyliog i bensaernïaeth ym Mhrydain, pan oedd addurniadau Gothig traddodiadol yn cael eu cyfuno’n rhydd ag addurniadau Clasurol ffasiynol yn dod drosodd o’r Cyfandir, gan gynhyrchu adeiladau eclectig iawn!

Eich hoff le yng Nghymru a pham? Fy hoff le yng Nghymru yw Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Roedd gweithio yno drwy fy ugeiniau yn hynod o ffurfiannol ac arweiniodd fi i lawr llwybr hanes pensaernïol. Ond mae Portmeirion yn ail ddewis agos, gan ei fod yn hyfrydwch pensaernïol!

Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Fy hoff bodlediad hanes ar hyn o bryd yw 'Oh What a Time!'. Mae Cymru a hanes Cymru bob amser yn cael eu cynrychioli'n dda gan fod Elis James yn un o'r cyflwynwyr.

Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Rwyf hefyd yn ddarlunydd llawrydd, yn arbenigo mewn darlunio adeiladau hanesyddol. Un o’m llwyddiannau mwyaf fel darlunydd oedd creu’r darluniau clawr a phenodau ar gyfer llyfr ‘The Story of the Country House’ gan Clive Aslet, a gyhoeddwyd gan Yale University Press. Ar hyn o bryd dwi'n gweithio ar raglen deledu o'r enw 'Cartrefi Cymru' gyda BOOM Cymru, fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn fuan. Rwy'n gweithio y tu ôl i'r llenni fel ymchwilydd ond rwyf hefyd yn ymddangos ar y sgrin fel yr arbenigwr hanesyddol ym mhob pennod. Mae fy hobïau yn cynnwys nofio, darllen, a phêl-droed (dwi'n cefnogi Arsenal!).

Sut gall pobl gysylltu â chi neu gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich project ymchwil? Y lle gorau i gadw mewn cysylltiad â mi yw ar Instagram ac X @bethanscorey.

Cysylltwch â Bethan: 

bts20ljc@bangor.ac.uk