Gr诺p Diddordeb Ymchwil i Ymwrthedd Gwrthficrobaidd
Croeso i Gr诺p Diddordeb Ymchwil i Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Prifysgol Bangor
Rhannwch y dudalen hon
Mae Ymwrthedd Gwrthficrobaidd yn fygythiad byd-eang sy'n effeithio ar ystod eang o ddisgyblaethau ymchwil, gan gynnwys iechyd pobl ac anifeiliaid, amaethyddiaeth, newid yn yr hinsawdd a llygredd, a diwydiannau bwyd a chnydau.
Ein Cenhadaeth yw ymgysylltu 芒 staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor i ddatblygu ymchwil ryngddisgyblaethol, ym maes ymwrthedd gwrthficrobaidd, a hyrwyddo'r defnydd o'r ymchwil honno mewn polisi ac ymarfer.
Amcanion
Rhwydweithio ag ystod ehangach o gydweithwyr o'r gymuned wyddonol i helpu i hwyluso ymchwil sy'n cael effaith.聽
Datblygu ymchwil ryngddisgyblaethol ym maes Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a chyfrannu ymhellach at bolisi ac ymarfer.聽聽
Trefnu a hyrwyddo cyfleoedd rhwydweithio, gan rannu datblygiadau mewn ymchwil o fewn thema Ymwrthedd Gwrthficrobaidd.
Annog ymgysylltiad y cyhoedd rhwng y gr诺p Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a'r gymuned o ymchwilwyr
Hoffech chi ymuno 芒 ni?
Drwy ddod yn aelod, byddwch yn derbyn gwahoddiadau e-bost i ddigwyddiadau sydd i ddod. Bydd cyfleoedd hefyd i rannu eich ymchwil yn y gr诺p Ymwrthedd Gwrthficrobaidd.