Wrth i Brifysgol Bangor barhau i dyfu a datblygu Ysgol Feddygol newydd Gogledd Cymru, mae cynnig Fferylliaeth ochr yn ochr 芒鈥檙 rhaglenni Meddygaeth ac Iechyd Cysylltiedig yn rhan o strategaeth y sefydliad i sicrhau bod cyfleoedd i ymgeiswyr lleol fynd i mewn i鈥檙 meysydd pwysig hynny a bod graddedigion yn cyflawni anghenion gweithlu Gogledd Cymru a thu hwnt.聽
Dywedodd yr Athro Stephen Doughty, Pennaeth Rhaglen Fferylliaeth Prifysgol Bangor 鈥Bydd y rhaglen hon yn diwallu鈥檙 angen lleol a chenedlaethol a bydd yn sicrhau bod gan Ogledd Cymru sylfaen gref ar gyfer addysg ac ymchwil fferyllol. Bydd hyn yn sicrhau bod anghenion cleifion a darpar fyfyrwyr yn cael eu diwallu ar gyfer y dyfodol.鈥澛
Daw鈥檙 datblygiadau diweddar yn sgil ymweliad llwyddiannus gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC) fel rhan o鈥檙 broses achredu sy鈥檔 ofynnol. Mae鈥檔 ganlyniad cadarnhaol sy鈥檔 galluogi鈥檙 Brifysgol i ddechrau鈥檙 broses o recriwtio myfyrwyr i鈥檙 radd fferylliaeth MPharm i gychwyn fis Medi 2025 a pharhau i weithio tuag at achredu'r rhaglen gyda'r CFfC. Caiff y rhaglen ei hachredu dros dro hyd nes bydd y broses achredu鈥檔 gyflawn.
Bydd y rhaglen MPharm yn cyd-daro 芒 Safonau newydd y GPhC ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Fferyllwyr a bydd yn cefnogi iechyd a llesiant rhanbarthol y boblogaeth trwy baratoi graddedigion fferylliaeth at eu rolau fel rhan o dimau gofal iechyd integredig i hwyluso gofal y cleifion. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig addysgu sylweddol trwy brofiad gyda phartneriaid gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), fferyllfeydd cymunedol, meddygfeydd y meddygon teulu ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Ar y cyd 芒 BIPBC, bwriad Prifysgol Bangor yw mai hi fydd darparydd mwyaf blaenllaw addysg fferylliaeth o safon yn y Gogledd.聽
Mae cyfranogiad y rhanddeiliaid yn ffurfio athroniaeth strwythur y rhaglen MPharm. Cafodd colofnau craidd Y Claf, Y Fferyllydd a'r System Gofal Iechyd eu trawsgrifio i fodiwlau 'Cleifion, eu Meddyginiaethau a'u Gofal (PMC)' y bydd y myfyrwyr yn eu dilyn. Cafodd rhagor o fanylion cwricwlaidd arloesol eu datblygu i sicrhau bod y rhaglen ar flaen y gad o ran hyfforddiant fferylliaeth modern. Bydd y rheini鈥檔 fodiwlau integredig ac amlddisgyblaethol lle caiff elfennau ymarfer fferylliaeth, ffarmacoleg, fferylleg a chemeg fferyllol eu cyfuno gyda鈥檙 ffocws ar y claf a鈥檌 ofal. Bydd proffesiynoldeb a chyfleoedd i ymarfer defnyddio鈥檙 Gymraeg yn elfennau craidd a fydd yn greiddiol i鈥檙 rhaglen.
Dywedodd Lois Lloyd, Prif Fferyllydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 鈥Dyma newyddion gwych i Ogledd Cymru ac edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth 芒 Phrifysgol Bangor i gefnogi'r rhaglen. Bellach mae gennym ni gyfle i fuddsoddi鈥檔 lleol yn hyfforddiant fferyllwyr yng Ngogledd Cymru ac i ddatblygu鈥檙 gweithlu medrus clinigol sydd ei angen arnom ni, a鈥檙 Gwasanaeth Iechyd ehangach, i鈥檙 dyfodol.鈥
Manylion pellach am y rhaglen
Prifysgol Bangor yn Lansio Gradd Fferylliaeth Newydd at Anghenion Gofal Iechyd Lleol a Chenedlaethol
Mae gradd Fferylliaeth newydd Prifysgol Bangor wedi cael s锚l bendith, ac mae myfyrwyr ar fin dechrau eu hastudiaethau fis Medi 2025. Y rhaglen radd Meistr pedair blynedd mewn Fferylliaeth (MPharm) yw'r prif lwybr y mae myfyrwyr yn ei ddilyn i ddod yn fferyllwyr.