Mae Wythnos Gweithredu Dementia yn tynnu sylw at gyfraniad y Brifysgol at wella diagnosis dementia
Mae Wythnos Gweithredu Dementia, a gynhelir rhwng 15 a 21 Mai, wedi amlygu cyfraniadau sylweddol a wnaed gan ymchwilwyr Prifysgol Bangor tuag at wella diagnosis dementia. Mae鈥檙 ymdrechion hyn yn rhan o鈥檙 adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, dan arweiniad Cymdeithas Alzheimer.
Cadeiriodd y swyddog ymchwil Dr Jennifer Roberts gyfarfod bord gron yng Nghymru i ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr, a fu鈥檔 allweddol wrth lywio鈥檙 adroddiad. Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn cynnwys canfyddiadau ar fynediad i wasanaethau dementia gan drigolion dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) a gynhyrchwyd gan Dr Catrin Hedd Jones, darlithydd mewn astudiaethau dementia. Dywed yr adroddiad mai pobl o gymunedau gwledig a/neu ddifreintiedig a鈥檙 rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf sydd leiaf tebygol o gael mynediad amserol at ddiagnosis o safon, gan nodi pwysigrwydd asesiadau dwyieithog i siaradwyr Cymraeg. Ar hyn o bryd mae Catrin yn gweithio gydag , Canolfan Cynllunio Ieithyddol Cymru, ar ddilysu asesiadau gwybyddol i siaradwyr Cymraeg, i helpu i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 rhwystr hwn rhag cael diagnosis amserol a chywir.
Dywedodd yr Athro Gill Windle, Cyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru, yr Ysgol Iechyd a Gwyddorau Meddygol, 鈥淩wy鈥檔 falch iawn o weld y gwaith pwysig hwn a wneir gan fy nh卯m yn llywio consensws ar draws y tair gwlad ynghylch y rhwystrau i gael diagnosis.鈥
Mae cyfraniadau Dr Roberts wedi ennill lle amlwg iddi yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas Alzheimer yn Llundain sydd ar ddod. Fel arbenigwr allweddol yn y maes, bydd Dr Roberts yn cymryd y llwyfan yn ystod trafodaeth banel, gan ganolbwyntio ar y pwyntiau allweddol a amlygwyd yn yr adroddiad. Bydd ei harbenigedd wrth ymchwilio i brofiadau diagnosis dementia yng Nghymru yn cyfrannu鈥檔 sylweddol at y drafodaeth, gan ddarparu mewnwelediadau a safbwyntiau gwerthfawr.
Mae aelodau DSDC wedi gweithio'n uniongyrchol gyda phobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr fel rhan o gr诺p i gynhyrchu 鈥楪rym mewn Gwybodaeth鈥, llyfryn sy'n cynnwys cyngor ar sut i helpu i gefnogi pobl yn dilyn diagnosis o ddementia. Ym mis Mai, dosbarthwyd dros 8000 o gop茂au o'r llyfryn i weithwyr proffesiynol a phobl sy'n byw gyda dementia ledled Cymru. Mae'r adnodd hefyd wedi ysbrydoli fersiynau yn yr Alban a Lloegr.
Mae Grym mewn Gwybodaeth ar gael , gyda鈥檙 fersiwn Saesneg, Knowledge is Power, .