ÌýÌý
Rhaid i unrhyw ateb i newid yn yr hinsawdd gynnwys coedwigoedd trofannol. ÌýMae datgoedwigo yn gollwng carbon i'r atmosffer, ond mae adfer coedwigoedd yn gallu amsugno carbon sylweddol. ÌýYn ddiweddarach eleni, bydd Glasgow yn cynnal y 26th Conference of the Parties of the United Nations Framework Convention on Climate Change (COP26). ÌýMae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo gwneud 'atebion ar sail natur' yn ganolog i’r gynhadledd hon. ÌýMae'r rhain yn cynnwys polisi'r Cenhedloedd Unedig o'r enw REDD+ (Reducing Emissions from Deforestation and forest Degradation). ÌýMae REDD+ yn ymddangos fel syniad syml (mae gwledydd tlotach gyda choedwigoedd trofannol yn cael cyllid i leihau’r datgoedwigo sy’n digwydd yn eu gwledydd) ond mae wedi bod yn ddadleuol iawn. ÌýGan ddefnyddio ei 20 mlynedd o brofiad yn gwneud ymchwil gymhwysol yng nghoedwigoedd glaw dwyreiniol Madagascar, bydd yr Athro Jones yn edrych ar y problemau gyda REDD+ ac yn trafod pam mae’n bwysig bod y materion hyn yn cael sylw.
Mae'r Athro Julia P. G. Jones yn wyddonydd cadwraeth sydd â diddordeb yn effeithiau ymyriadau cadwraeth (yn cynnwys taliadau am wasanaethau ecosystem, rheoli coedwigoedd cymunedol, ardaloedd gwarchodedig a gwrthbwyso bioamrywiaeth). ÌýMae'n canolbwyntio'n neilltuol ar elfennau cymdeithasol cadwraeth, ac mae wrth ei bodd yn gweithio gyda phobl a dulliau o amrywiol ddisgyblaethau. ÌýHi yw arweinydd y project Forest4Climate&People, sy'n ceisio sicrhau bod rhaglenni carbon coedwig yn fwy effeithiol ac yn osgoi effeithiau negyddol ar bobl dlawd (http://forest4climateandpeople.bangor.ac.uk/). ÌýMae hi wedi cymryd swydd Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru i Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd yn ddiweddar. ÌýYn 2020, ymddangosodd yn rhaglen ddogfen y BBC 'Extinction: The Facts’, a gyflwynwyd gan Syr David Attenborough. Ìý
Mae'r ddarlith yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. ÌýCaiff y gynulleidfa gyfle i ofyn cwestiynau. ÌýTrefnir y digwyddiad ar y cyd gan Brifysgol Bangor a Changen Menai Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig. Ìý
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â public.lectures@bangor.ac.uk.
Ìý
Ìý